Gwersyll yr Urdd Caerdydd
Canolfan breswyl ddinesig Gwersyll yr Urdd Caerdydd. Lleolir yn adeilad Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd. Agorwyd yn swyddogol gan Bryn Terfel ar 27 Tachwedd 2004.[1]
Math | pencadlys, gwersyll haf |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Perchnogaeth | Urdd Gobaith Cymru |
Mae lle i 153 o bobl aros yno a neuadd/theatr aml bwrpas gyda’r cyfleusterau technolegol diweddaraf, lolfeydd, neuadd fwyta, ystafelloedd cyfarfod ac ystafelloedd dosbarth yno.[2] Arhosodd dros 6,000 yn y gwersyll yn ystod ei blwyddyn gyntaf.[3]
Cyn agor y Gwersyll yn y Bae, roedd canolfan gan yr Urdd yn Heol Conwy yn ardal Pontcanna o'r brifddinas. Lleolwyd swyddfeydd, siop a cynhaliwyd gwersi Cymraeg a gweithgareddau'r Urdd a grwpiau Cymraeg arall yn Hen Ganolfan yr Urdd Caerdydd o'r 1960au hyd nes ei chau yn 2003.