Gwesty'r Marriott, Caerdydd
gwesty yng Nghaerdydd
Gwesty pedwar seren[1] yw Gwesty'r Marriott Caerdydd (Saesneg: Cardiff Marriott Hotel), yn rhan ddeheuol yr Aes[2] yng nghanol Caerdydd, prifddinas Cymru. Mae'n agos i Lyfrgell Ganolog Caerdydd a Neuadd Dewi Sant.[3]
Math | gwesty |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.47711°N 3.175°W, 51.47727°N 3.17547°W |
Cod post | CF10 1EZ |
Rheolir gan | Marriott Hotels & Resorts |
Agorwyd y gwesty yn 1986 fel gwesty Holiday Inn,[4][5] a gwerthwyd y gwesty yn 1990 i Grŵp InterContinental Hotels gan ddod yn westy Marriott. Fe adnewyddwyd y gwesty yn 2008, gan gynnwys adeiladu maes parcio aml-lawr, am fod rhan o'r hen faes parcio wedi ei werthu i wneud lle i Lyfrgell Ganolog newydd fel rhan o ddatblygiad Dewi Sant 2.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Godfrey-Faussett, Charles; Murphy, Alan; Ford, Rebecca (1 Ebrill 2004). Britain. Footprint Travel Guides. t. 542. ISBN 978-1-903471-89-0. Cyrchwyd 25 Medi 2011.
- ↑ Nevez, Catherine Le; Parker, Mike; Whitfield, Paul (28 April 2009). The Rough Guide to Wales. Rough Guides. t. 117. ISBN 978-1-84836-050-1. Cyrchwyd 25 September 2011.
- ↑ BBC (1999). BBC music magazine. BBC Magazines. Cyrchwyd 25 Medi 2011.
- ↑ "Cardiff Marriott Hotel celebrates 25th anniversary". Whycardiff.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-05. Cyrchwyd 29 Ionawr 2012.
- ↑ "Cardiff Timeline". cardiffians.co.uk. Cyrchwyd 29 Ionawr 2012.