Llyfrgell Ganolog Caerdydd

prif lyfrgell gyhoeddus Caerdydd Cymru

Llyfrgell Ganolog Caerdydd (hen enw: Llyfrgell Dinas Caerdydd) yw'r brif lyfrgell yng nghanol dinas Caerdydd. Dyma'r pedwerydd adeilad i gario'r enw hwn. Agorwyd yr adeilad presennol ar 14 Mawrth 2009.[1] Cafodd llyfrgell gyntaf Caerdydd ei hagor yn 1861 a galwyd hi yn Cardiff Free Library, fe'i hehangwyd maes o law i fod y Cardiff Free Library, Museum and Schools for Science and Art.

Llyfrgell Ganolog Caerdydd
Mathllyfrgell gyhoeddus Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 14 Mawrth 2009
  • 1882 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerdydd Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Uwch y môr14.4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4779°N 3.1755°W Edit this on Wikidata
Cod postCF10 1FL Edit this on Wikidata
Rheolir ganCyngor Caerdydd Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCyngor Caerdydd Edit this on Wikidata

Adnoddau

golygu

Mae'r llyfrgell yn gartref i gasgliad pwysig o lawysgrifau Cymreig,a oedd yn cynnwys Llyfr Aneirin, un o drysorau pennaf llenyddiaeth Gymraeg, nes iddi fynd ar fenthyg parhaol i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Ymhlith y llawysgrifau eraill ceir Llyfr Bicar Woking.

Ceir yno gasgliad mawr o tua 500,000 o lyfrau o bob math a dogfennau hanesyddol am Gymru a Chaerdydd.

Sefydlwyd y Llyfrgell wreiddiol yn 1861 trwy danysgrifiad gwirfoddol, a hynny yn Heol Eglwys Fair.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  BBC (14 Mawrth 2009). Agor llyfrgell newydd yn y ddinas. Adalwyd ar 7 Mai 2012.
  2. "The Cardiff Story (1861)". Cyngor Caerdydd. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-08. Cyrchwyd 2010-04-28.

Dolenni allanol

golygu