Gwesty'r Royal, Caerdydd
Gwesty yw Gwesty'r Royal mewn lleoliad amlwg ar gornel Heol Eglwys Fair/Stryd Wood yng nghanol Caerdydd.[1][2] Dyma westy crand hynaf Caerdydd ac mae wedi ei restru gyda Gradd II.
Math | gwesty |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1866 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | canol dinas Caerdydd, Castell, Caerdydd |
Sir | Caerdydd, Castell, Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 9 metr |
Cyfesurynnau | 51.478°N 3.17799°W |
Cod post | CF10 1DW |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Hanes
golyguDyluniwyd y gwesty gan y dylunydd C. E. Bernard a fe'i hadeiladwyd rhwng 1864 a 1866.[1] Daeth tua 60-70 o drigolion dylanwadol lleol i ginio mawr i agor y gwesty ar 3 Gorffennaf 1866. Rheolwyd y gwesty yn wreiddiol gan Mr a Mrs Sprawson.[3] Ar y pryd roedd gwesty Royal arall yng Nghaerdydd, o'r enw Gwesty'r Old Royal, wedi ei leoli yn yr Aes.[4]
Roedd gan adeilad y 1860au bedwar llawr (ac atig) mewn arddull Eidalaidd. Yn 1890 ychwanegwyd llawr arall ac ychwanegwyd atig i bob cornel yr adeilad.[1] Fe gynyddodd hyn y nifer o stafelloedd gwely o 70 i 120, gyda lifft modern a stafelloedd gweision ar y chweched llawr. Ar y llawr cyntaf roedd neuadd wledda gyda lle ar gyfer 400 o giniawyr.[5]
Cinio ffarwelio Capten Scott
golyguAr 13 Mehefin 1910, deuddydd cyn i long Robert Falcon Scott adael Caerdydd ar ei daith aflwyddiannus i'r Antarctig cynhaliwyd cinio yng Ngwesty'r Royal gan Siambr Fasnach Caerdydd i godi arian i'r daith. Mae plac yn cofnodi'r digwyddiad wrth fynediad Heol Santes Fair.[6] Cynhaliwyd y cinio mewn stafell ar y llawr cyntaf, gyda'r enw Ystafell Alexandra yn wreiddiol, ond fe'i hail-enwyd "Ystafell Capten Scott" yn 1982, ar ôl darganfyddiad siawns o fwydlen y cinio. O ganlyniad i hyn fe ffurfiwyd Cymdeithas Capten Scott yng Nghaerdydd yn 1983.[7][8]
21ain ganrif
golyguCaewyd y gwesty yn 2001 a chafodd ei ailwampio yn llwyr i baratoi ar gyfer canmlwyddiant cinio ffarwelio Scott yn 2011. Agorwyd bar newydd, gyda'r enw Fitz ar ôl Pat Fitzgerald, baban oedd wedi ei adael yng nghyntedd y gwesty yn 1939 a fabwysiadwyd gan weithiwr dur lleol a'i wraig.[9]
Yn 2013 gosodwyd cwch gwenyn o wenyn mêl ar do'r gwesty gyda'i enw stafell ei hun, 6B. Roedd hyn yn dilyn cynllun gan Lywodraeth Cymru i geisio atal y dirywiad yn niferoedd y gwenyn mêl.[10]
Mae rhifyn 2015 o ganllaw Rough Guide to Wales yn dweud hyn am y gwesty "this Victorian building conceals a modern interior; the bold red-and-black furnished rooms and limestone-finished bathrooms are well appointed, if somewhat devoid of charm."[11] Ar hyn o bryd mae ganddo 60 o stafelloedd gwely.[12]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Royal Hotel, Castle". British Listed Buildings. Cyrchwyd 26 Mai 2015.
- ↑ Porter, Darwin; Prince, Danforth (2004), Frommer's Great Britain, Wiley Publishing, p. 694, ISBN 0-7645-3823-3, https://books.google.co.uk/books?id=jMPEIqbVFTIC&pg=PA694#v=onepage&q&f=false
- ↑ "The 'opening dinner' of the Royal Hotel at Cardiff". Devizes and Wiltshire Gazette. 5 July 1866. t. 3. Cyrchwyd 31 May 2015 – drwy British Newspaper Archive.
- ↑ Lee, Brian (5 Rhagfyr 2014). "Cardiff Remembered: City pubs that bring a nostalgic glint to our eyes". BBC News. Cyrchwyd 31 Mai 2015.
- ↑ "The Extension Of The Royal Hotel Cardiff". Western Mail. 20 Mawrth 1893. t. 6. Cyrchwyd 31 Mai 2015 – drwy British Newspaper Archive.
- ↑ "Captain Robert F Scott plaque replaced at Cardiff hotel". BBC News. 15 Mehefin 2011. Cyrchwyd 31 Mai 2015.
- ↑ Miller, Claire (30 March 2010). "Hotel bids to bring Captain Scott's blue plaque in from the cold". Wales Online. Cyrchwyd 2 June 2015.
- ↑ "The ROYAL HOTEL, St Mary Street, Cardiff". The Captain Scott Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-29. Cyrchwyd 2 June 2015.
- ↑ "A new era begins for Cardiff's refurbished Royal Hotel". Wales Online. 25 Tachwedd 2011. Cyrchwyd 31 Mai 2015.
- ↑ "Bees given hive on roof of Cardiff's Royal Hotel". BBC News. 15 Awst 2013. Cyrchwyd 31 Mai 2015.
- ↑ Longley, Darren; Stewart, James; Burford, Tim (2015) (e-Book), The Rough Guide to Wales, Rough Guides, p. 140, ISBN 978-1-4093-5662-2, http://books.google.com.ar/books?id=eNZtBgAAQBAJ&pg=PT140#v=onepage&q&f=false
- ↑ "Welcome". Royal Hotel Cardiff. Cyrchwyd 31 Mai 2015.