Gwesty’r Celt

gwesty yng Nghaernarfon, Gwynedd

Gwesty tair seren yw Gwesty'r Celt neu’r Celtic Royal Hotel yng Nghaernarfon, Gwynedd. Cafodd ei adeiladu ym 1794 ac mae'n parhau ar y safle ers hynny. Yn ôl yn y 18g ymwelodd y Frenhines Victoria â'r gwesty sawl tro. Mae gan y gwesty ystafelloedd cysgu, ystafelloedd bwyd a diod, canolfan ffitrwydd a phwll nofio. Cynhelir priodasau a chynadleddau yno hefyd. Mae’r gwesty wedi derbyn llawer o wobrau.  

Gwesty'r Celt
Mathgwesty Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCaernarfon Edit this on Wikidata
SirCaernarfon Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr13.7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.142664°N 4.272572°W Edit this on Wikidata
Cod postLL55 1AY Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Enw gwreiddiol y gwesty oedd The Uxbridge Arms Hotel. Cafodd ei adeiladu o gwmpas 1794 gan ail iarll Uxbridge sy’n enwog am ymladd ym Mrwydr Waterloo. Enillodd ei le mewn hanes am ei ran yn y frwydr honno.

Ar y pryd roedd y gwesty yma yn un o’r goreuon yn y dalgylch. Cynhaliwyd llawer o ddawnsfeydd nosweithiol ac adloniant i'r Gymdeithas Adelphi. Yn 1832 pan ymwelodd Frenhines Victoria newidiodd enw’r gwesty yn ei anrhydedd i'r Royal Hotel.