Gwilym Thomas Hughes
Dramodydd Cymraeg oedd Gwilym Thomas Hughes (1895 - 1978).
Gwilym Thomas Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 1895 Llansantffraid Glyn Ceiriog |
Bu farw | 1978 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | dramodydd, athro |
Yn frodor o blwyf Glyn Ceiriog, Sir Wrecsam, treuliodd y rhan helaeth o'i oes yn athro yn Llundain, Lloegr. Bu sawl un o'i ddramâu yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Enillodd y Fedal Ddrama yn 1961 a 1963.[1]
Dramâu (detholiad)
golygu- Y Pren Planedig (1953)
- Ei Seren tan Gwmwl (1955)
- Cyfamod (1960)
- Pan Ddêl Mai (1962)
- Cyffro yn y Cosmos (1966)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru