Agor y brif ddewislen

Llansanffraid Glynceiriog

Hen bentref chwareli llechi ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
(Ailgyfeiriad oddi wrth Glyn Ceiriog)

Hen bentref chwareli llechi yw Glyn Ceiriog (Llansanffraid Glyn Ceiriog yn llawn), yn Mwrdeistref Sirol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru. Gorwedd y pentref ar lan afon Ceiriog a'r ffordd B4500, 6.5 milltir (10 km) i'r gorllewin o'r Waun a 3.5 milltir (5.5 km) i'r de o Langollen. Yn wleidyddol mae'n rhan o ward Dyffryn Ceiriog, yn etholaeth cynulliad De Clwyd a'r etholaeth seneddol o'r un enw. Roedd chwareli llechi estynedig yno ac adeiladwyd Tramffordd Dyffryn Glyn i gymryd y llechi i lanfa ar Gamlas Undeb Swydd Amwythig ac yn nes ymlaen i gyfnewid traciau gyda Rheilffordd y Great Western o Gaer i Amwythig.

Glyn Ceiriog
Glynceiriog.jpg
Math Pentref Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Ffraid Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Wrecsam Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.9377°N 3.1831°W, 52.9322°N 3.1839°W Edit this on Wikidata
Cod OS SJ205384 Edit this on Wikidata
Cod post LL20 Edit this on Wikidata

Daearyddiaeth a gweinyddiaethGolygu

 
Golygfa ar bentref Glyn Ceiriog.

Hanes gweinyddolGolygu

Yn hanesyddol, gweinyddwyd Glyn Ceiriog fel plwyf ac yn nes ymlaen fel plwyf gweinyddol Llansanffraid Glyn Ceiriog. O ganol y 16g hyd 1974, llywodraethwyd Glyn Ceiriog gan sir weinyddol Sir Ddinbych, a rannwyd yn sawl ardal wledig. Rhwng 1895 a 1935, roedd Glyn Ceiriog yn rhan o Ardal Wledig y Waun, a gyfunwyd gydag Ardal Wledig Llansilin yn 1935 i greu Ardal Wledig Ceiriog. Roedd Glyn Ceiriog yn rhan o Ardal Wledig Ceiriog wedyn o 1935 hyd 1974.

Yn 1974, cafwyd wared ar yr hen Sir Ddinbych fel sir weinyddol, a chyfunwyd Glyn Ceiriog ag Ardal Glyndŵr yn sir newydd Clwyd. Cafwyd wared ar sir Clwyd ac Ardal Glyn Dŵr yn 1996, a daeth Glyn Ceiriog yn rhan o awdurdod unedol Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fel y mae hyd heddiw.

Cynrychiolaeth wleidyddolGolygu

Gweinyddir Glyn Ceiriog o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a drodd yn awdurdod unedol yn 1998. Mae Glyn Ceiriog yn rhan o ward Dyffryn Ceiriog, ac mae ganddi gynghorwr annibynnol.

Mae Glyn Ceiriog yn etholaeth cynulliad De Clwyd a chynrychiolir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru o 1999 hyd 2011 gan Karen Sinclair ac ers 2011 gan Ken Skates, y ddau yn aelod o'r Blaid Lafur.

Saf Glyn Ceiriog hefyd mewn etholaeth seneddol o'r enw De Clwyd a chynrychiolir yn Senedd y Deyrnas Unedig o 1997 hyd 2010 gan Martyn Jones ac ers 2010 gan Susan Elan Jones, y ddau yn aelod o'r Blaid Lafur.

Daearyddiaeth/daearegGolygu

Lleolir Glyn Ceiriog yn Nyffryn Ceiriog, dyffryn a grewyd gan afon Ceiriog. Yn ddaearegol, mae gan y dyffryn stratau Ordoficiaidd a Silwriaidd. Mae'r pridd yn fân ac yn fawnog.

Pobl o Lyn CeiriogGolygu

Mae sawl llenor wedi byw yn neu'n agos i Lyn Ceiriog yn y gorffenol, yn cynnwys:

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llansanffraid Glynceiriog (pob oed) (1,040)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llansanffraid Glynceiriog) (335)
  
33.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llansanffraid Glynceiriog) (611)
  
58.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llansanffraid Glynceiriog) (173)
  
37.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

OrielGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Dolenni allanolGolygu