Mae Gwipavaz (Ffrangeg: Guipavas) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Plabennec, Brest, La Forest-Landerneau, Gouesnou, Kersaint-Plabennec, Le Relecq-Kerhuon, Saint-Divy ac mae ganddi boblogaeth o tua 15,460 (1 Ionawr 2021).

Gwipavaz
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Br-Gwipavaz-Y-M D-Wikikomzoù.flac Edit this on Wikidata
Poblogaeth15,460 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethFabrice Jacob Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBarsbüttel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Llydaw Llydaw
Arwynebedd44.13 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaPlabenneg, Brest, Ar Forest-Landerne, Gouenoù, Kersent-Plabenneg, Ar Releg-Kerhuon, Sant-Divi Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.4336°N 4.4008°W Edit this on Wikidata
Cod post29490 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Guipavas Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethFabrice Jacob Edit this on Wikidata
Map

Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg. Daw'r enw o'r Llydaweg gwic (tref) a bevoez (coedwig mawr).

Poblogaeth golygu

 

Cysylltiadau Rhyngwladol golygu

Mae Gwipavaz wedi'i gefeillio â:

Adeiladau crefyddol golygu

Mae nifer o adeiladau crefyddol nodweddiadol yng nghymuned Gwipavaz

Eglwys Sant Pedr a Sant Paul golygu

Adeiladwyd rhwng 1952 a 1955 gan y pensaer Michel Brest; mae’n nodweddiadol gan fod ei chlochdy yn annibynnol i gorff yr eglwys ac yn weladwy o bellteroedd. Mae porth yr eglwys, sydd wedi ei gadw o'r eglwys flaenorol, yn cynnwys cerfluniau o'r deuddeg apostol ac yn heneb gofrestredig[1]

Capel Ein Morwyn ar y Bryn golygu

Saif Capel Ein Morwyn ar y Bryn (Notre-Dame-du-Reun) 93 metr uwchben lefel y môr. Mae'r capel presennol yn dyddio o'r 19g ac wedi ei hadeiladu i gymryd lle eglwys gynharach a adeiladwyd gan Sant Thudon ei hun yn y 7c. Cafodd y capel ei hadfer ym 1805, a'i ddifrodi'n wael yn ystod yr ymladd i ryddha Brest ym mis Awst 1944; ail- adferwyd y capel ym 1952.[2]

Capel Saint-Yves golygu

Adeiladwyd ym 1892 o gerrig hen gapel maenor Keroudaut[3].

Notre-Dame-de-Tourbian golygu

Dyma eglwys fodern y plwyf, wedi ei gysegru 26 Medi, 1993

Gweler hefyd golygu

Cymunedau Penn-ar-Bed

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-11-18. Cyrchwyd 2016-11-10.
  2. http://fr.topic-topos.com/notre-dame-du-reun-guipavas
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-21. Cyrchwyd 2016-11-10.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: