Llydaweg
Iaith Geltaidd y Llydaw yn nheulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd yw'r Llydaweg (brezhoneg). Mae'r Llydaweg yn tarddu o'r Frythoneg, fel y gwnaeth y Gymraeg a'r Gernyweg hefyd. Tarddodd y Frythoneg ei hun o'r Gelteg. Siaredir Llydaweg yn Llydaw, yng ngogledd-orllewinol gwladwriaeth Ffrainc, sef Llydaw Isel, sy'n cynnwys Finistère, gorllewin Côtes d'Armor a Morbihan. Mae cysylltiad agos rhwng yr iaith â'r hunaniaeth Lydawaidd.
Llydaweg | ||
---|---|---|
brezhoneg | ||
Ynganiad IPA | [bɾe.ˈzõː.nɛk] | |
Siaredir yn | Ffrainc | |
Rhanbarth | Llydaw | |
Cyfanswm siaradwyr | tua 200,000 [1] | |
Teulu ieithyddol | Indo-Ewropeaidd | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | br | |
ISO 639-2 | bre | |
ISO 639-3 | bre | |
Wylfa Ieithoedd | 50-ABB-b (amrywiadau:
50-ABB-ba hyd at -be) |
Hanes
golyguCafodd y Llydaweg ei chyflwyno i Lydaw gan ymfudwyr o dde-ddwyrain Prydain o'r 4edd hyd at y 6g. Ychydig sy'n hysbys am gyflwr ieithyddol y rhan honno o wlad Gâl yr adeg honno ond mae'n bur sicr fod tafodiaith Aleg yn cael ei siarad yno. Nid yw'r Llydaweg ei hun yn perthyn i gangen Celteg y Cyfandir ond yn hytrach i'r Frythoneg sydd, gyda'r Oideleg, yn ffurfio'r gangen Geltaidd a elwir yn Gelteg Ynysig. Glosau ar eiriau Lladin mewn llawysgrifau yw'r cofnodau hynaf o'r iaith Lydaweg sydd ar gael heddiw, ynghyd ag enwau personol a lleol yn yr un ffynonellau. Maent yn dyddio o'r 9fed hyd at y 12g. Mae'r testunau cyfan cynharaf yn dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol. Gelwir iaith y cyfnod hwnnw'n Llydaweg Canol. Testunau crefyddol fel bucheddau seintiau yw'r testunau Llydaweg Canol bron i gyd. Y llyfr cyntaf i'w gyhoeddi yn y Llydaweg yw'r Catholicon, geiriadur teirieithog a gyhoeddwyd yn Landreger (sef Tréguier yn ffrangeg) yn 1464. Mae Llydaweg Canol yn dangos dylanwad cryf Ffrangeg ar ei ffonoleg, ei gramadeg a'i geirfa.
Orgraff
golyguMae datblygiad system orgraffol safonol i'r Llydaweg wedi bod yn anodd. Cam pwysig oedd cyhoeddiad geiriadur Le Gonidec yn 1821.
Am amser roedd nifer o systemau orgraffol yn cyd-fyw. Ond yr un a ddefnyddir fwyaf heddiw, a ddysgir yn yr holl ysgolion, yw'r orgaff Peurunvan (unedig). Yn y ganrif ddiwethaf roedd ei ylynion yn ei alw Zedacheg (yn ôl y llythyrennau "zh") achos mae'n sgrifennu Breizh, ers 1941, yn lle Breiz neu Breih.
Llydaweg heddiw
golyguYn 1999, roedd tua 304 000 o bobl yn medru Llydaweg yn ôl yr INSEE (Sefydliad gwybodaeth ystadegol ac economaidd Ffrainc), sef un rhan o bump o boblogaeth Llydaw Isel. Roedd cefn gwlad Breizh Izel yn uniaith Lydaweg tan yr Ail Ryfel Byd. Oddi ar y rhyfel ychydig o bobl ifanc a fagwyd yn Llydaweg. Er gwaetha'r ffaith nad oedd mewnlifiad yn digwydd yr adeg honno ymddengys i'r rhan fwyaf o deuluoedd Llywdaweg benderfynu fagu eu plant yn uniaith Ffrangeg o tua 1946-1950 ymlaen. Mae nifer y siaradwyr iaith gyntaf ar fin cwympo i lefel isel gyda cholli'r genhedlaeth 70-80 oed dros y degawdau nesaf yma, sef cnewyllyn y siaradwyr iaith gyntaf. Ar hyn o bryd prin bod 2% o blant Llydaw Isel yn medru'r Llydaweg a'r rhan fwyaf ohonynt oherwydd ymdrech ysgolion Llydaweg Diwan.
Blwyddyn | Nifer o siaradwyr Llydaweg | % o'r boblogaeth yn siarad Llydaweg |
---|---|---|
1886 | 1,982,300 | 60 |
1928 | 1,158,000 | 38 |
1952 | 700,000 | 23 |
1983 | 604,000 | 16 |
1991 | 250,000 | 6 |
1997 | 240,000 | 6 |
1999 | 304,000 | 8 |
2007 | 206,000 |
Statws
golyguDoes dim statws swyddogol gan yr iaith Lydaweg. Yn ôl cyfansoddiad Ffrainc, Ffrangeg yw unig iaith y Wladwriaeth. Fe feriniadwyd Ffrainc yn hallt yn ddiweddar yn dilyn eu methiant i gadarnhau [[Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Ieithoedd Lleiafrifol. Er hyn, fe sefydlwyd Ofis ar Brezhoneg (Bwrdd yr Iaith Lydaweg) gan Gyngor Rhanbarth Llydaw yn 1999 er mwyn hyrwyddo a datblygu'r defnydd o'r iaith.
Addysg
golyguMwy na 20,280 o blant sydd yn cael eu dysgu mewn ysgolion Diwan, Div Yezh, Dihun ac mae'r ffigwr yn codi gan bymtheg y cant pob blwyddyn. Mae yna gyfundrefn addysg dwyieithog, sef Divyezh (dwyieithog cyhoeddus) a Dihun (dwyieithog preifat).
Darlledu
golyguMae radio a theledu cyhoeddus yn darlledu rhai rhaglenni Llydaweg bob dydd. Roedd sianel deledu preifat TV Breizh yn darlledu rhaglenni Llydaweg a Ffrangeg ond peidiwyd gwneud hynny yn 2009. Lansiwyd teledu ar-lein brezhoweb yn 2006. Mae'n darlledu dim ond yn y Llydaweg (gydag isdeitlau Ffrangeg, Llydaweg ac, weithiau Saesneg) ond mae dim ond ar-lein ac nid fel teledu lloeren neu daearol.
Brawddegau Cyffredin
golygu- Sut mae – Salud
- Hwyl fawr – Kenavo, kenô
- Diolch – Bennozh Doue (sef yn lythrennol "Bendith Duw"; nid oes gwir gair am diolch yn Llydaweg), Trugarez, mersi.
- Os gwelwch yn dda – Mar plij.
- Iechyd da! – Yec'hed mat !
- Nos da! – Noz vat !
- Sut ydych chi? – Mat an traoù ganeoc'h ?
- Sut wyt ti? – Mat an traoù ganit ?
- Pwy dych chi? – Piv oc'h ?
- ...ydw i – ...on
- Beth ydy dy enw? – Pe anv out ?/Petra eo da anv ?
- Fy enw ydy... – ...eo ma anv
- Dwi ddim – N'on ket
- Yn – E/en
Mae cyfieithiadau i'r Gymraeg o'r Llydaweg wedi dangos yn rheolaidd o brif awduron Llydaw fel Roparz Hemon, Anjela Duval, Ronan Huon a Per Denez yn ogystal a'r ffordd arall ee Treid Daouhualet gan Kate Roberts
Priod-ddulliau neu idiomau
golygu- Siminalioù ar bed all (simneiau y byd arall) – cerrig mawrion mewn cae.
- Dent Genver (Ysgithredd Ionawr) – Pibonwy.
- Ne lip ket chadenn ar puñs (dydy e ddim yn llyfu cadwyn y ffynnon) – dydy e ddim yn hoffi dŵr, sef meddwyn yw ef.
- N'eo ket bet roet un teod dezhi/dezhañ evit lipat ar mogerioù (nid oes ganddo/ganddi dafod i lyfu muriau) – mae e/hi'n siarad yn ddi-baid, pymtheg y dwsin.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Yn ôl cyfrifiad 2001, mae tua 270,000 o siaradwyr yn bodoli, ond mae'r iaith yn colli tua 10,000 o siaradwyr bob blwyddyn. Mae'r wefan oui au breton (Ffrangeg) yn amcangyfrif bod 200,000 o siaradwyr yn bodoli.
- ↑ Ffynhonnell: tabl a gynhwyswyd yn Hornsby, M. (2008). The incongruence of the Breton linguistic landscape for young speakers of Breton, J. of Multilingual and Multicultural Development, Vol. 29(2), 127-138, a ddyfynnodd Observatoire de la Langue Bretonne (2002) yn dyfynnu Sébillot (1886), Hemon (1930), Gourvil (1952), Centre d’Études d’Opinion (1983), TMO (1991, 1997), INSEE (1999). Daw ffigur 2007 o arolwg 2007 TMO.
Llyfryddiaeth
golygu- F. Gourvil, Langue et littérature bretonnes (Paris, 1952)
- Kenneth H. Jackson, A Historical Phonology of Breton (Dulyn, 1967)
- Henry Lewis, Llawlyfr Llydaweg Canol (Caerdydd)
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Ofis ar Brezhoneg (Llydaweg) (Ffrangeg)
- Ar Bibl Santel (Jenkins) 1897 (JEN1897) (Saesneg) (Llydaweg)
v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg | ||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd |