Gwiwer lwyd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Rodentia
Teulu: Sciuridae
Genws: Sciurus
Rhywogaeth: S. carolinensis
Enw deuenwol
Sciurus carolinensis
Gmelin, 1788

Anifail o drefn y cnofilod (Rodentia) yw'r wiwer lwyd (Sciurus carolinensis). Ei chynefin brodorol yw dwyrain yr Unol Daleithiau a Chanada. Cyflwynwyd 350 o wiwerod llwyd i Loegr yn Swydd Bedford yn 1889. Oddi yno maen nhw wedi lledu dros y rhan fwyaf o Gymru a Lloegr ac wedi dod yn fygwth i'r wiwer goch frodorol. Maen nhw hefyd wedi cael eu cyflwyno i Iwerddon a'r Eidal, lle maen nhw wedi ehangu eu tiriogaeth hefyd.