Y drefedigaeth gyntaf a sefydlwyd gan Saeson yn y Byd Newydd oedd Gwladfa Roanoke a leolid ar Ynys Ronaoke yn y Traethellau Allanol, sydd heddiw yn rhan o Ogledd Carolina. Sefydlwyd ar gais Walter Raleigh yn 1585, er nad oedd efe ei hunan erioed wedi ymweld â'r ynys. Dychwelodd y garfan gyntaf o ymsefydlwyr i Loegr ar ôl blwyddyn, a bu dau ymgais arall i sefydlu gwladfa barhaol yn 1586 a 1587, a'r ddwy garfan o setlwyr yn diflannu heb adael ôl. Fe'i elwir yn y Wladfa Goll oherwydd y dirgelwch ynglŷn â'i thynged. Am gyfnod hir, credai bod y setlwyr wedi eu lladd gan Americanwyr Brodorol, ond mae nifer o haneswyr bellach yn tybio iddynt symud i ardal arall ac ymuno â llwyth o frodorion.

Y cynllun golygu

Rhoddodd y Frenhines Elisabeth, ganiatâd i Walter Raleigh ar 25 Mawrth 1584 i sefydlu trefedigaethau newydd ar ran Lloegr yn y Byd Newydd. Methiant fu mordaith Humphrey Gilbert i sefydlu gwladfa yn 1582–83. Roedd y diddordeb mewn ymsefydlu yn ardal Virginia yn seiliedig ar yr awydd i ymosod ar longau trysor Sbaen, atal Sbaen a Ffrainc rhag sefydlu eu trefedigaethau eu hunain yno, i godi cymunedau newydd er budd Saeson di-waith, a sicrhau ardal a oedd efo llawer o nwyddau y gellid eu defnyddio wrth fasnachu.

Y capteiniaid Philip Amadas ac Arthur Barlowe oedd y Saeson cyntaf i lanio ar Ynys Roanoke, a hynny yng Ngorffennaf 1584. Cynllun y fordaith, ar gais Raleigh, oedd gosod y sail ar gyfer coloneiddio diweddarach. Dychwelasant i Loegr gyda nwyddau a dau o'r brodorion, Manteo a Wanchese. Bwriad eu harddangos yn Llundain oedd codi arian ar gyfer mordaith arall.

Y wladfa gychwynnol (1585–86) golygu

Wedi glanio yn yr ardal ym Mehefin 1585 enwyd y tir yn Virginia ar ôl Elisabeth I, brenhines Lloegr, "y Forwyn Frenhines". Dadlwythwyd y cyflenwadau yn Roanoke. Roedd yn rhy hwyr yn y flwyddyn iddynt blannu hadau ond roedd gan yr ymsefydlwyr ddigon o fwyd am ugain niwrnod. Dychwelodd Richard Grenville gan adael Ralph Lane a 107 o rai eraill i fod yn gyfrifol am y drefedigaeth. Milwr oedd Lane ac felly roedd wedi trefnu'r wladfa ar linellau milwrol. Nid oedd ei berthynas efo'r brodorion yn iach, er iddynt ei gynorthwyo ar y cychwyn. Bu sawl gwrthdaro rhyngddo a rhai o'r brodorion. Drwy gydol y cyfnod hwn roedd fforwyr Raleigh, sef Hariot a White, yn cofnodi a gwneud darluniau o amryw agweddau o'r ardal. Roedd Hariot ar delerau da efo'r brodorion.

Erbyn Medi roedd Grenville yn ôl yn Plymouth gyda llong drysor Sbaenaidd yr oedd wedi ei chipio. Golygai hyn bod Raleigh yn gwneud elw o'r fordaith. Cytunodd y Frenhines Elisabeth i'r tir newydd gael ei alw er anrhydedd iddi, a chafodd Raleigh ei urddo'n farchog a'i benodi'n Arglwydd a Llywodraethwr Virginia.

Ym Mehefin 1586 ymddangosodd llong dan Syr Francis Drake oddi ar Ynys Roanoke. Bwriad gwreiddiol ei fordaith oedd dal llongau trysor ond gan mai Raleigh oedd wedi rhannol gyllido'r fordaith ymddengys mai dyma pam yr ymddangosodd oddi ar yr arfordir. Pan gyrhaeddodd llong Raleigh y drefedigaeth roedd yr ymsefydlwyr eisoes wedi dychwelyd i Loegr efo Drake oherwydd iddynt flino disgwyl.

Y wladfa goll gyntaf (1586) golygu

Cyrhaeddodd Grenville yr ynys yn 1586, i ddarganfod gwladfa wag am i'r coloneiddwyr dychwelyd i Loegr ar long Drake. Felly gadawodd 15 o ddynion a chyflenwadau arno. Ni wyddys beth oedd eu tynged.

Yr ail wladfa goll (1587–90) golygu

Roedd yr ymsefydlwyr gwreiddiol wedi bod yn weithwyr i Raleigh. Y tro yma bwriadai sefydlu gwladfa efo setlwyr go iawn. Addawyd 500 acer i bob ymsefydlwr. Rhoddwyd gorchymyn gan Raleigh i sefydlu'r drefedigaeth newydd rhyw 100 milltir i'r gogledd, ym Mae Chesapeake, morgainc llawer mwy hwylus i longau lanio. Anwybyddwyd hyn gan un o'r capteiniaid, Simon Fernandes.

Bedyddwyd y brodor Manteo a gwnaed ef yn Arglwydd Roanoke. Gadawyd ef yno gyda 85 o ddynion, 17 o wragedd, ac 11 o blant.

Ar 17 Awst 1590 dychwelodd rhai o longau Raleigh i Roanoke. Nid oedd yr un enaid i'w chanfod yn y wladfa. Roedd y storfeydd cudd wedi eu dinistrio. Os oedd y trefedigaethwyr wedi gadael roeddynt wedi addo gadael neges ar fur y gwersyll gyda chroes os yr oeddynt wedi eu gorfodi i adael. Darganfu White, arweinydd y fordaith, yr enw "CROATOAN" ar fur y gwersyll. Ynys Croatoan oedd man geni Manteo, a Croatoan neu Croatan oedd yr enw ar ei dylwyth. Ni lwyddodd y fordaith yn 1590 gyrraedd Croatoan. Roedd colli'r drefedigaeth yn ergyd personol i White gan mai ei wyres ef, Virginia Dare, oedd y plentyn cyntaf o Sais i'w geni yn yr Amerig.