Plymouth
Dinas a phorthladd yn sir seremonïol Dyfnaint, De-orllewin Lloegr, yw Plymouth[1] (Cymraeg: Aberplym). Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Dinas Plymouth, sy'n cael ei gweinyddu'n annibynnol o gyngor sir Dyfnaint.
Math | dinas, dinas fawr, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Plymouth |
Poblogaeth | 267,918 |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Budoc |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dyfnaint (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 79.29 km² |
Gerllaw | Afon Tamar |
Cyfesurynnau | 50.371389°N 4.142222°W |
Cod OS | SX477544 |
Saif y ddinas ar Plymouth Sound rhwng aberoedd Afon Tamar ac Afon Plym. Oherwydd ei lleoliad mae yn borthladd o bwys ers canrifoedd, yn enwedig yn nhermau milwrol.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Plymouth boblogaeth o 234,982.[2]
Mae gwasanaeth fferi Brittany Ferries yn cysylltu Plymouth â Rosko yn Llydaw, ac mae hefyd wasanaeth fferi i Santander yn Sbaen.
Hanes
golyguYn ôl traddodiad roedd Syr Francis Drake yn chwarae bowls yma wrth i Armada Sbaen nesáu. Hwyliodd Tadau'r Pererin o Plymouth ar y llong hwylio Mayflower yn 1620. Yn y 18g roedd yn ganolfan gwaith porslen o bwys.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Adeilad Roland Levinsky (Prifysgol Plymouth)
- Pont Tamar
- Royal Citadel
- Tŵr Smeaton
- Ty Prysten
- Ty Saltram
Enwogion
golygu- Syr John Hawkins (1532-1595), morwr
- Syr Joshua Reynolds (1723-1792), arlunydd
- Michael Foot (1913-2010), gwleidydd a newyddiadurwr
- Syr Donald Sinden (1923–2014), actor
- John Inverdale (g. 1957), cyflwynydd radio a theledu
- Douglas Hodge (g. 1960), actor
Gefeilldrefi
golyguGefeilldrefi Plymouth:
- Brest, Llydaw (ers 1963)
- Gdynia, Gwlad Pwyl (ers 1976)
- Novorossiysk, Rwsia (ers 1990)
- Donostia, Gwlad y Basg (ers 1990)
- Plymouth, Massachusetts, UDA (ers 2001)
Mae gan Plymouth gysylltiad gyda:
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2019
- ↑ City Population; adalwyd 20 Mehefin 2020
Dinasoedd
Caerwysg ·
Plymouth
Trefi
Ashburton ·
Axminster ·
Bampton ·
Barnstaple ·
Bideford ·
Bovey Tracey ·
Bradninch ·
Brixham ·
Buckfastleigh ·
Budleigh Salterton ·
Colyton ·
Cranbrook ·
Crediton ·
Cullompton ·
Chagford ·
Chudleigh ·
Chulmleigh ·
Darmouth ·
Dawlish ·
Exmouth ·
Great Torrington ·
Hartland ·
Hatherleigh ·
Holsworthy ·
Honiton ·
Ilfracombe ·
Ivybridge ·
Kingsbridge ·
Kingsteignton ·
Lynton ·
Modbury ·
Moretonhampstead ·
Newton Abbot ·
North Tawton ·
Northam ·
Okehampton ·
Ottery St Mary ·
Paignton ·
Plympton ·
Salcombe ·
Seaton ·
Sherford ·
Sidmouth ·
South Molton ·
Tavistock ·
Teignmouth ·
Tiverton ·
Topsham ·
Torquay ·
Totnes