Països Catalans
(Ailgyfeiriad o Gwledydd Catalanaidd)
Defnyddir y term Països Catalans (Catalaneg, yn golygu "y Gwledydd Catalanaidd") am y tiriogaethau lle siaredir Catalaneg. Ystyria llawr o genedlaetholwyr Catalanaidd eu bod yn ffurfio cenedl.
Ymddangosodd y term tua diwedd y 19g, a gwnaed ef yn boblogaidd gan yr awdur Joan Fuster i Ortells yn ei lyfr Nosaltres els valencians ("Ni, y Valenciaid"). Mae'r tiriogaethau hyn yn cynnwys:
- Tywysogaeth Catalwnia, y dywysogaeth hanesyddol yn cynnwys:
- Cymuned Ymreolaethol Catalwnia yn Sbaen
- Gogledd Catalwnia (Pays catalan), yn département Pyrénées-Orientales yn Ffrainc
- Andorra
- Y Frange d'Aragon yn Aragon
- Hen Deyrnas Majorca: yr Ynysoedd Balearig
- Hen Deyrnas Valencia
Mae'r ardaloedd hyn yn cynnwys rhai rhannau lle nad Catalaneg yw'r iaith gynhenid, er enghraifft y Val d'Aran, lle siaredir Araneg. Ceir hefyd rai ardaloedd tu allan i'r Països Catalans lle siaredir Catalaneg.