Bae agored o'r Môr Canoldir yw Gwlff Gabès (Arabeg: خليج قابس‎), sy'n gorwedd oddi ar arfordir de canolbarth Tiwnisia yng Ngogledd Affrica. Yr enw arno yng nghyfnod yr Henfyd oedd Minor Syrtis (Lladin).

Gwlff Gabès
Mathgwlff Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
GwladTiwnisia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.22°N 10.62°E Edit this on Wikidata
Map

Fe'i enwir ar ôl dinas hynafol Gabès, a leolir ger yr arfordir yn nhalaith Gabès, tua 400 km i'r de o Tiwnis, prifddinas Tiwnisia.

Gorwedd Ynysoedd Kerkennah a dinas Sfax ym mhen gogleddol y gwlff ac mae ynys Djerba yn dynodi ei ben deheuol. Ei lled yw tua 200 km.

Yn ogystal â Gabès a Sfax, mae'r trefi ar neu ger arfordir Gwlff Gabès yn cynnwys Mahrès, Skhira a Jorf.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.