Bae mawr agored yn ne'r Môr Canoldir ar arfordir gogleddol Tiwnisia yw Gwlff Tiwnis. Mae'n ymestyn o Benrhyn Carthago (Cap Carthage: hefyd Cap Farina) yn y gorllewin i bwynt gogleddol Cap Bon yn y dwyrain, pellter o tua 75 km. Ers dyddiau'r Ffeniciaid a'r Rhufeiniaid mae wedi bod yn gysgodfa pwysig i longau. Mae'n gorwedd gyferbyn i ynys Sisili a Sardinia ac felly o bwys strategol er mwyn rheoli'r llwybr morol rhwng y Môr Canoldir gorllewinol a'r rhan ddwyreiniol, trwy Gulfor Sisili.

Gwlff Tunis
Mathgwlff Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
GwladTiwnisia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.98°N 10.6°E Edit this on Wikidata
Map

Yma, yn ôl traddodiad, y glaniodd y frenhines Elissa (Dido yn Eneid Fferyllt) a'i llynges o ffoaduriaid o Tyros (Tyre - mam-ddinas y Carthaginiaid yn Ffenicia) tua 700 CC a sefydlu dinas Carthago. Mae'r gwlff wedi bod yn dyst i sawl frwydr fawr ac wedi chwarae rhan bwysig yn hanes yr Henfyd.

Ar ei glannau gorllewinol ceir nifer o drefi, gan gynnwys (o'r gogledd i'r de) Sidi Bou Saïd ar Benrhyn Carthago, Carthago ei hun, La Goulette ar y fynedfa i Llyn Tiwnis a dinas Tiwnis ei hun, Rades, ez-Zahra a Hammam Lif. Ceir nifer o draethau da sy'n denu trigolion Tiwnis yn yr haf. Mewn cyferbyniaeth mae'r glannau dwyreiniol yn llawer mwy anghysbell gyda nifer o glogwynni a bryniau isel. Ar ôl Hammam Lif yr unig dref o bwys yw Korbous (tref spa) a Sidi Daoud (porthladd bysgota).

Oddi ar benrhyn gogleddol Cap Bon ceir dwy ynys ddeniadol, Zembra a Zembretta, sy'n warchodfeydd natur. Yn dominyddu'r gwlff yn y gorllewin mae mynydd triphyg trawiadol Bou Kornine.

Gweler hefyd

golygu