Gwlith yw dŵr ar ffurf diferion sy'n ymddangos ar wrthrychau tenau sydd yn yr awyr agored yn ystod y bore neu gyda'r nos. Mae'n digwydd o ganlyniad i gyddwyso.[1] Wrth i'r arwyneb oeri trwy belydru gwres, mae lleithder atmosfferig yn cyddwyso ar raddfa gynt nag y mae'n anweddu, ac yn ffurfio diferion o ddŵr o ganlyniad.[2]

Gwlith ar ddeilen

Os yw'r tymhered yn ddigon isel, gall gwlith ffurfio fel rhew; gelwir y ffurf hon yn barrug.

Oherwydd bod perthynas rhwng gwlith a thymheredd arwynebau, mae'n fwy amlwg ddiwedd yr haf ar arwynebau nad ydynt yn cael eu cynnhesu gan wres sydd wedi'i ddargludo o'r ddaear, fel glaswellt, dail, rheiliau, toeau ceir, a phontydd.

Nid ddylid cymysgu rhwng gwlith a dafnu, sef y proses sy'n caniatau i blanhigion ryddhau gormodedd o ddŵr allan o'u dail. Defnyddir teclyn o'r enw drosometer i fesur gwlith.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Definition of DEW". www.merriam-webster.com.
  2. "dew". The Columbia Encyclopedia, 6th ed. The Columbia Encyclopedia, 6th ed. Cyrchwyd 18 May 2013.