Barrug
Term a ddefnyddir i gyfeirio at haen neu gramen o iâ sy'n ymffurfio dan amodau arbennig lle y ceir aer llaith ac oer yw barrug. Mae'n ffurfio fel arfer dros nos.
Delwedd:Frost (31189250653).jpg, Hoar frost ice crystals in Tuntorp 1 - cropped.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | Iâ |
---|---|
Math | ffenomen, Dyodiad |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mewn hinsawdd tymherus mae'n ymddangos fel arfer ar ffurf crisialau gwyn neu wlith wedi'i rewi'n agos i'r ddaear; ond pan fo'r hinsawdd yn oer ymddengys mewn nifer o ffurfiau gwahanol fel y gwelir mewn patrymau ar ffenestr oer.[1]
Gall barrug ddifrodi cnydau'r amaethwr, felly mae nifer ohonynt yn gwario arian mawr ar ddulliau atal barrug rhag ffurfio ar blanhigion.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ John E. Oliver (1 January 2005). The Encyclopedia of World Climatology. Springer Science & Business Media. tt. 382–. ISBN 978-1-4020-3264-6.