Gwobr flynyddol sy’n parodïo’r Wobr Nobel yw’r Wobr Ig Nobel. Cyflwynir deg ohonynt pob Hydref i ddathlu adroddiadau gorchestion sy’n gyntaf yn codi gwên ond yna sy’n peri dyn feddwl. Ei diben yw hybu diddordeb y cyhoedd mewn Gwyddoniaeth, Meddygaeth a Thechnoleg.

Gwobr Ig Nobel
Enghraifft o'r canlynolgwobr llawn eironi Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1991 Edit this on Wikidata
Enw brodorolIg Nobel Prize Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.improbable.com/ig/winners/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Marc Abrahams (yn 2008). Golygydd yr Annals of Improbable Research,a sylfaenydd y gwobrau Ig Nobel.

Cynhelir y seremoni gwobrwyo, mewn awyrgylch o ddifyrrwch rhwysgfawr yn Theatr Sanders Prifysgol Harvard. Enillwyr gwobrau Nobel go iawn sy’n cyflwyno’r gwobrau ar y llwyfan. Dilynir y seremoni gan gyflwyniadau cyhoeddus gan yr enillwyr yn Athrofa Dechnoleg Massachusetts (MIT). Diwedda pob seremoni gyda’r cyfarchiad “ Os na bu ichi ennill gwobr eleni - ac yn arbennig os ichwi wneud - gwell lwc y flwyddyn nesaf !”

Trefnir y digwyddiadau, a gychwynnwyd yn 1991, gan y cylchgrawn ysgafn gwyddonol The Annals of Improbable Research (AIR)[1]. Ei golygydd, Marc Abrahams, bu’r meistr seremonïau ers hynny. Mae nifer o’r categorïau yn dilyn patrwm y Wobr Nobel; Ffiseg, Cemeg, Ffisioleg/meddygaeth, Llenyddiaeth a Heddwch, ond mae hefyd categorïau amgen i hwyluso’r coegni[2].

Er nad ydynt yn ddim byd tebyg i’r Gwobrau Nobel, ceir gryn ddiddordeb yn y Gwobrau Ig Nobel ymhlith gwyddonwyr. Fe’i cyhoeddir pob blwyddyn ychydig wythnosau cyn y Gwobrau Nobel.

Yn 2000 enillodd Andre Geim wobr Ig Nobel am bapur ar hedfan broga byw mewn maes magnetig. Yn 2010 gwobrwywyd yr un Andre Geim a’r Wobr Nobel am ei waith ar graffin[3]. (Hyd yma, fe yw’r unig un i ennill “y dwbl” hwn.)

O bryd i’w gilydd moeswersi yw’r nod, megis gwobr Cemeg 2016 i gwmni Vokswagen am ddatrys problem llygredd aer trwy leihau allyriadau yn ystod profion[4].

Yn ogystal â'r cylchgrawn mae gan Improbable Research wefan[5] sy'n hysbysu erthyglau a digwyddiadau haeddiannol.   

Enillwyr o Gymru

golygu

1998. Gwobr Meddygaeth. Caroline Mills, Meirion Llewelyn, David Kelly a Peter Holt (Ysbyty’r Royal Gwent) am eu papur a gyhoeddwyd yn y Lancet o dan y teitl "A Man Who Pricked His Finger and Smelled Putrid for 5 Years."[6][7]

2006. Gwobr Heddwch. Howard Stapleton (Merthyr Tydfil) am ei ddyfais i yrru glaslanciau a llancesi i ffwrdd (electromechanical teenager repellant). Mae hwn yn cynhyrchu sŵn annifyr amledd uchel sydd i’w glywed gan bobl ifainc ond nid gan oedolion. Yn ôl disgrifiad Ig Nobel, fe’i defnyddiwyd hefyd fel sain ffôn (ring tone) y byddai modd ei defnyddio mewn dosbarth heb i’r athrawon clywed ![8]

Enillwyr Eraill

golygu

Yn 2013 cyflwynwyd y wobr Ig Nobel Heddwch[9] i Alexander Grigoryevich Lukashenko, Arlywydd Belarws ers 20 Gorffennaf 1994, am ei wneud yn anghyfreithlon i gymeradwyo yn gyhoeddus yn ei wlad (ac hefyd i Heddlu Weiniaeth Belarws am arestio dyn ag iddo un fraich, am wneud hynny[10]).

Cyfeiriadau

golygu
  1. "The Magazine: Annals of Improbable Research". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-17. Cyrchwyd 21 Medi 2017.
  2. "About The Ig® Nobel Prizes". Improbable Research. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-25. Cyrchwyd 21 Medi 2017.
  3. "The Nobel Prize in Physics 2010". Nobelprize.org. Cyrchwyd 21 Medi 2017.
  4. "Winners of the Ig® Nobel Prize". Improbable Research. Cyrchwyd 21 Medi 2017.
  5. "Improbable Research (Blog)". Improbable Research. Cyrchwyd 21 Medi 2017.
  6. Mills, Caroline (et al) (9 Tachwedd 1996). "A man who pricked his finger and smelled putrid for 5 years". The Lancet 348: 1282. http://www.thelancet.com/journals/lancet/article/PIIS0140-6736(96)06408-2/abstract.
  7. "The 1998 Ig ® Nobel Prize Ceremony". Improbable Research. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-24. Cyrchwyd 21 Medi 2017.
  8. "The 2006 Ig Nobel Prize Winners". Cyrchwyd 21 Medi 2017.
  9. "Winners of the Ig® Nobel Prize". Improbable Research. Cyrchwyd 21 Medi 2017.
  10. "In Belarus, one-armed man arrested for clapping". The Christian Science Monitor. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-12. Cyrchwyd 21 Medi 2017.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)