Agor y brif ddewislen
Cyngor Trent (hen engrafiad)

Mudiad o fewn yr Eglwys Gatholig wedi'i ymgysegredu i frwydro yn erbyn canlyniadau'r Diwygiad Protestannaidd a'u dadwneud trwy ddiwygio camarferion yn yr Eglwys a dileu heresïau, ac ati, oedd y Gwrth-Ddiwygiad (neu'r Gwrth-Ddiwygiad Catholig). Gellid dadlau iddo ddechrau'n ffurfiol gyda Chyngor Trent (1545 - 1563), a agorwyd gan y Pab Pawl III yn unswydd er mwyn adgyfnerthu'r Eglwys yn wyneb y datblygiadau chwyldroadol yng ngwleydd Protestannaidd gogledd Ewrop.

Roedd ceisio adfer "Yr Hen Ffydd" yn y gwledydd Protestannaidd newydd, fel Lloegr, Cymru, Yr Iseldiroedd a gwladwriaethau gogledd Yr Almaen yn rhan ganolog o'i strategaeth.

Roedd y Gwrth-Ddiwygiad ar ei anterth yn ail hanner yr 16g ond parhaodd hyd ganol y ganrif olynol. Gwelwyd sefydlu Cymdeithas yr Iesu (y Jeswitiaid) a'i datblygu i fod yn gorff cenhadol a anfonai offeiriad i bob rhan o'r byd, o Beriw i Tsieina a Siapan, ymestyn y Chwil-lys i wledydd eraill fel Sbaen a'r Amerig, a cheisio adfer bywyd ysbrydol a seiliau athronyddol yr Eglwys.

Ar waethaf yr erlyd dan Elisabeth I o Loegr ceisiodd y Catholigion wrthsefyll Protestaniaeth. Roedd angen cael cenhadon cyfrinachol i efengylu yng Nghymru a Lloegr. Mewn canlyniad sefydlwyd Coleg Douai yn Ffrainc i'w hyfforddi.

Gweler hefydGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.