Athroniaeth neu ideoleg a ddatblygwyd gan y nofelydd Rwsiaidd-Americanaidd Ayn Rand yw Gwrthrychiaeth. Ei ffordd fachog hi o ddisgrifio'i syniadaeth oedd "Dilynwch reswm". Man cychwyn Gwrthrychiaeth ydy dealltwriaeth o realiti yn wrthrychol, yn absoliwt, ac yn annibynnol ar unrhyw feddwl sy'n ei chanfod. Mae'n dal taw ymwybyddiaeth ydy'r gallu sy'n canfod yr hyn sy'n bodoli, ac felly, mae dirfod yn rhagflaenu'r ymwybyddiaeth. Yn ôl Rand, rheswm ydy'r moddion unigryw sydd gan y ddynolryw i ennill gwybodaeth, a hynny trwy ddull rhesymeg. Cysylltir Gwrthrychiaeth â nifer o gredoau eraill Rand, gan gynnwys anffyddiaeth, rhyddewyllysiaeth, ac unigolyddiaeth, a fe'i poblogeiddiwyd drwy ei nofelau hi, The Fountainhead (1943) a Atlas Shrugged (1957).

Mae sefydlydd Wikipedia, Jimmy Wales, yn arddel Gwrthrychiaeth.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Why Is This Man Smiling?", Fast Company (2007). Adalwyd ar 20 Medi 2019.