Gwrthryfel y Werin
Gwrthryfel yn Lloegr ym 1381 oedd Gwrthryfel y Werin[1] neu Wrthryfel y Gwerinwyr.[1] Achoswyd gan sefyllfa economaidd wael y bobl gyffredin ac yn enwedig cyflwyniad treth y pen dan y Brenin Rhisiart II[2] a'r Pla Du yn y 1340au. Ymhlith arweinwyr y gwrthryfel oedd Wat Tyler a John Ball.
Enghraifft o'r canlynol | peasant revolt, gwrthryfel |
---|---|
Dyddiad | Tachwedd 1381 |
Dechreuwyd | 30 Mai 1381 |
Daeth i ben | Tachwedd 1381 |
Lleoliad | Lloegr |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ond yr hyn a ffrwydrodd y sefyllfa oedd ymweliad John Bampton yn Essex ar 30 Mai 1381 pan geisiodd gasglu trethi yn nhref Brentwood. Trowyd at drais a ledaenodd ar hyd a lled de-ddwyrain Lloegr fel tân gwyllt. Ymunodd y bobl gyffredin yn y brotest gan losgi llysoedd ac agor drysau'r carchardai. Nod y gwrthryfelwyr oedd lleihau'r trethi, rhoi diwedd ar y drefn o daeogaeth a diddymu llysoedd a swyddogion y Brenin.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, [peasant: the Peasants' Revolt].
- ↑ (Saesneg) Peasants' Revolt. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Tachwedd 2014.