Taeog

(Ailgyfeiriad o Taeogaeth)

Taeog yn y Canol Oesoedd oedd person oedd yn rhan o haen isaf cymdeithas, oedd yn rhwym wrth y tir a heb hawl i'w adael heb ganiatad ei arglwydd. Roedd gan yr arglwydd neu'r tirfeddiannwr yr hawl i orfodi'r taeog i weithio ar diroedd yr arglwydd yn ddi-dâl. Ar un adeg roedd y system yn gyffredin trwy Ewrop ac mewn rhannau eraill o'r byd, ac mewn rhai gwledydd parhaodd hyd yn 19g, er enghraifft yn Rwsia, lle rhyddhaodd Alexander II y taeogion ym 1861.

Darlun o'r Cleriwr, Marchog, Taeaog (dde) o'r Li Livres du Santé 13g

Credir i'r system yma ddatblygu o gaethwasiaeth amaethyddol yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig.

Taeogion yng Nghymru

golygu

Yng Nghymru, nodir yng Nghyfraith Hywel fod tri dosbarth mewn cymdeithas: y brenin, y breyr (y tirfeddiannwr rhydd) a'r taeog. Nid oedd y taeog heb hawliau cyfreithiol, ond roeddynt yn llai na hawliau'r ddau ddosbarth arall. Er enghraifft, yn ôl Cyfraith Hywel roedd sarhad taeog yn llai, ac roedd rhai crefftau na allai taeog ei dysgu i'w fab heb ganiatad ei arglwydd, sef gofaniaeth, ysgolheictod a barddoniaeth, oherwydd roedd unrhyw un oedd yn dilyn y swyddogaethau hynny yn ŵr rhydd. Gelwid tref o daeogion yng ngwasanaeth yr arglwydd neu dywysog lleol yn faerdref. Dechreuodd y drefn ddadfeilio oherwydd effeithiau'r Pla Du yn y 14g, pan achubodd llawer o daeogion ar y cyfle i adael y tir.

Taeogaeth byd-eang

golygu
 
Deiseb i ddiddymu Taeogaeth o fewn yr Ymerodraeth Hapsburgaidd, 1781

Ni ddiddymwyd taeogaeth mewn rhannau mawr o Ewrope nes ddiwedd y 18g (yn rannol yn sgîl y Chwyldro Ffrengig a choncwest Napoleon o llawer o'r hen drefn fonarchaidd a yna yn hwyrach yn y 19g mewn rhannau eraill o'r cyfandir. Bu'n rhaid aros yn hwy fyth mewn rhannau eraill o'r byd nes diddymu taeogaeth.

Noder y rhestr isod o'r dyddiadau pan diddymwyd taeogaeth na unwyd y tiroedd Almaenig nes 1870 ac felly ceir gwahanol ddyddiadau ymryddhau, noder hefyd, nad oedd nifer o'r gwledydd yma'n annibynnol ar y pryd e.e. Estonia ac felly cafwyd ymryddhad fel rhan o wladwriaeth neu ymerodraeth fwy.

  • Wallachia : 1746 (land reforms in 1864 completed the trial).
  • Moldofa : 1749 (land reforms in 1864 completed the trial).
  • Savoy (ardal yn ne-ddwyrain Ffrainc bellach : 19 Rhagfyr 1771.
  • Ffrainc : August 8, 1779 (first stage, second stage: 1789) [3] . The great French revolution .
  • Awstria : 1 November 1781 [4] .; (first stage, second stage: 1848). Josephine Reforms .
  • Gweriniaeth Tsiec : 1780 [5] . (first stage, second stage: 1848).
  • Baden (de-orllewin yr Almaen bellach) : 23 Gorffennaf 1783.
  • Denmarc : 20 Mehefin 1788.
  • Swistir : 4 Mai 1798.
  • Serbia : 1804 (de facto, de iure in 1830).
  • Schleswig-Holstein : 19 Rhagfyr 1804.
  • Pomerania Swedeg : 4 Gorffennaf 1806.
  • Dugaeth Warsaw  : 22 Gorffennaf 1807. December decree .
  • Prwsia : 9 Hydref 1807; (it resulted in 1811-1823).
  • Mecklenburg : Hydref 1807 (it resulted in 1820).
  • Bafaria : 31 Awst 1808.
  • Tywysogaeth Nassau : 1 Medi 1812.
  • Estonia : 23 Mawrth 1816.
  • Kurland (Courland yn Saesneg) rhan orllewinnol Latfia gyfoes : 25 Awst 1817.
  • Württemberg : 18 Tachwedd 1817.
  • Livonia (talaith ogleddol Latfia gyfoes : 6 Mawrth 1819.
  • Hannover : 1831.
  • Saxony : 17 Mawrth 1832.
  • Hwngari : 11 Ebrill 1848 (for the first time), 2 Mai 1853 (for the second time).
  • Croatia : 8 Mai 1848.
  • Ymerodraeth Awstria : 7 Medi 1848.
  • Bwlgaria : 1858; (de jure by the Ottoman Empire, in fact in 1880).
  • Ymerodraeth Rwsia : 19 Chwefror 1861 (Alexander II's appropriation reform ).
  • Tonga : 1862.
  • Georgia : 1864-1871.
  • Kalmykia : 1892.
  • Bosnia a Herzegovina : 1918
  • Afghanistan : 1923.
  • Bhutan : officially abolished in 1959.

Taeog mewn Diwylliant Gymraeg

golygu

Mae'r term "taeog" yn cael ei arddel mewn diwylliant Gymraeg fel term o sarhâd ac yn arbennig at agwedd wasaidd at y wladwriaeth Brydeinig neu'r iaith Saesneg.

Defnyddia Dafydd Iwan y term yn ei gân enwog, Yma o Hyd [1] lle cenir

Chwythed y gwynt o'r Dwyrain
Rhued y storm o'r môr
Hollted y mellt yr wybren
A gwaedded y daran encôr
Llifed dagrau'r gwangalon
A llyfed y taeog y llawr
Er dued yw'r fagddu o'n cwmpas
Ry'n ni'n barod am doriad y wawr! [2]

Term mewn gemau

golygu

Caiff y term "taeog" ei arddel mewn gemau bwrdd fel gwyddbwyll a draffts i gyfeirio at y darn chwarae mwyaf elfennol a di-rym.

Cyfeiriadau

golygu