John Ball
Offeiriad o Loegr ac un o arweinwyr Gwrthryfel y Werin oedd John Ball (bu farw 15 Gorffennaf 1381).
John Ball | |
---|---|
Darluniad o John Ball ar gefn ceffyl yn ysbrydoli'r gwrthryfelwyr yn nghroniclau Jean Froissart (tua 1470) | |
Ganwyd | 1338 St Albans |
Bu farw | 15 Gorffennaf 1381 Coventry |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | henuriad, gwleidydd |
Mudiad | Lollardy |
Cafodd ei eni yn St Albans, Swydd Hertford. Teithiodd i Efrog a Colchester fel pregethwr. Cafodd ei ysgymuno tua'r flwyddyn 1366 am ei bregethau tanbaid oedd yn dadlau dros gymdeithas heb ddosbarthau, ond parhaodd i bregethu mewn marchnadau a mannau awyr agored. Wedi 1376, cafodd ei garcharu nifer o weithiau.
Ar ddechrau Gwrthryfel y Werin, ym Mehefin 1381, cafodd ei achub o garchar Maidstone yng Nghaint gan wrthryfelwyr a theithiodd gydant i Lundain. Yno, cynhyrfodd torf yn Blackheath gyda'r testun When Adam dalf and Eve span, Who was then a gentleman?,[1] hynny yw, yn oes Adda ac Efa, pwy oedd yr uchelwyr?
Yn sgil methiant y gwrthryfel, cafodd Ball ei roi ar brawf a'i grogi yn St Albans.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) John Ball. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Ebrill 2016.