Gwylan Benddu

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Gwylan benddu)
Gwylan Benddu
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Laridae
Genws: Chroicocephalus
Rhywogaeth: C. ridibundus
Enw deuenwol
Chroicocephalus ridibundus
(Linnaeus, 1766)
Cyfystyron

Larus ridibundus

Un o'r gwylanod lleiaf, er nad cyn lleied â'r Wylan Fechan yw'r Wylan Benddu. Nid yw'n benddu o gwbl mewn gwirionedd, gan fod ei phen yn frown yn yr haf ac yn wyn gyda smotyn du tu ôl i'r llygaid yn y gaeaf. Mae hi i'w gweld yn aml yn gaeaf ym mharciau ein trefi ac ar wair agored fel caeau pêl-droed.

Gwylan Benddu yn y gaeaf.
Chroicocephalus ridibundus

Ffenoleg y blufwisg golygu

Ddechrau'r 20ed ganrif roedd John Lorimer Thomas, Tywyn, Abergele, yn un o'r dyddiadurwyr oedd yn cadw cyfrif o ddatblygiad 'mwgwd' yr wylan benddu yn y gwanwyn.

12 Chwefror 1925:... Large nos of Blackhead gulls, (one only with black mwgwd on out of large no. examined, Feb 4).
28 Chwefror 1925: Much singing as it was a fine day after a long spell cold & wet. Towyn, quite 1 in 6 Blackhead Gulls had black head...[1]

Enwau golygu

Brain duon
Mai 1935 Padog ... “nodi yr wyn, mynd a'r defaid a'r ŵyn i mynydd Hafnant. Ffeindio tua deg i ddeuddeg o nythod llwyd y brwyn[2] ar hyd y ffordd i fyny at Foel Gopyn a wedyn at yr adwy ddŵr. Mynd a'r defaid i'w cynefin at Llyn Brain Gwynion. Gwylio rhai o'r brain gwynion — y Gwylain Benddu — yn nythu ar ynys ar ganol y llyn a chriw mawr ohonynt uwch ein pennau.[3]

Llais golygu

Mae llais yr wylan benddu wedi cael ei gymharu a llais Punch:

Tywyn 23 Ionawr 1925: The squawk of a Blackhead is exactly the noise of a Punch & Judy figure when speaking.[4]

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am aderyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. Dyddiadur John Lorimer Thomas, Tywyn, Abergele 1922-1942 (trawsgrifiad o'r gwreiddiol yn Nhywyddiadur Llên Natur [1]
  2. enw lleol ar gorhedydd y waun yn ôl cyfrol Dewi Lewis, Enwau Adar
  3. Dyddiadur DO Jones, Padog, Ysbyty Ifan (llawysgrif yn eiddo i’r teulu)
  4. Dyddiadur di-enw o Tywyn, Abergele 1922-1942 yn Nhywyddiadur Llên Natur[https/::llennatur.cymru/Tywyddiadur]