Gwylan y Penwaig

rhywogaeth o adar
Gwylan y Penwaig
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Laridae
Genws: Larus
Rhywogaeth: L. argentatus
Enw deuenwol
Larus argentatus
Pontopiddan, 1763
Larus argentatus argenteus

Un o'r gwylanod mwyaf ei maint yw Gwylan y Penwaig (Lladin: Larus argentatus; Saesneg: Herring Gull), sydd weithiau cyhyd â 66 cm o ran hyd, a hefyd sy'n un o'r gwylanod mwyaf rheibus ac ysglyfaethus, gan wledda ar bob math o bethau, gan gynnwys cywion gwylanod eraill. Mae ganddi enwau eraill gan gynnwys Gwylan Lwyd, Gwylan Frech a Gwylan Ysgadan. Mae'n byw yng ngogledd a gorllewin Ewrop; ceir rhywogaethau tebyg yn ne Ewrop, Gogledd America ac Asia. Gallant ymdopi a bywyd trefol hefyd, yn enwedig mewn dymps.

Sgrech golygu

Mae eu sŵn (neu swn) yn ymdebygu i sgechian chwerthin yn hemisffer y gogledd. Gallant hefyd wneud swn neu gri perygl a thro arall swn isel tebyg i gyfarth ci pan maent mewn argyfwng.

Mae'r cywion yn gwneud swn unigryw sy'n cael ei ailadrodd: swn uchel tebyg i 'pîîp', gan fflicio eu pennau yr un pryd - yn enwedig pan maen nhw'n mofyn bwyd gan eu rhieni. Yn rhyfedd iawn, mae oedolion y gwylanod hefyd yn gwneud hyn pan cânt eu bwydo gan bobl.

  Eginyn erthygl sydd uchod am aderyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.