Gwylfa Hiraethog

Adfail ar Fynydd Hiraethog

Roedd Gwylfa Hiraethog yn borthdy saethu yn berchen i'r is-iarll Devonport cyntaf, Hudson Ewbanke Kearley.[1] Saif y porthdy ar ucheldir anhysbell Mynydd Hiraethog, Sir Conwy, ar dir sydd yn 496m yn uwch nag lefel y môr. Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg honnwyd mai hwn oedd y tŷ uchaf yng Nghymru, gyda rhai o'r golygfeydd gorau yn Ynysoedd Prydain. [2]

Gwylfa Hiraethog
Mathadeilad Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlansannan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.118326°N 3.574495°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH9472259064 Edit this on Wikidata
Map
Adfail Gwylfa Hiraethog

Hanes golygu

Mae hanes y porthdy yn mynd yn ôl i ddechrau'r 1890au. Cychwynnodd fel siale pren, wedi'i fewnforio mewn rhannau parod o Norwy. Adroddir fod tri o Norwyiaid wedi dod draw i'w godi, a dywedir i'r siale gael ei sgriwio i'r graig. Yn 1908, ar yr un adeg cafodd prif gartref is-iarll Devonport yn Swydd Buckingham ei ailfodelu a'i ehangu, cafodd y caban bren ei drawsnewid fewn i borthdy newydd a adeiladwyd o gerrig. Cafodd y porthdy ei ehangu'n bellach yn 1913 gan y pensaer Syr Edwin Cooper, a mae'r hen luniau yn dangos iddo edrych fel plasty mawreddog mewn arddull Jacobeaidd. Cafodd ei hadeiladu o garreg leol gyda gorchuddion carreg Gwespyr, gyda gwyneb sment arni.

Rhoddodd is-iarll Devonport ystâd Gwylfa Hiraethog ar y farchnad yn 1925. Mae'r catalog gwerthu yn disgrifio'r porthdy fel blwch saethu a phreswylfa oedd yn cynnwys 11 prif ystafell wely, dwy ystafell wely eilaidd ynghyd â chwarteri gwas. Ar ôl i'r ystâd gael ei werthu, daeth y porthdy yn gartref i gipeiriaid yr ystâd, ac fe'i gadawyd yn wag yn yr 1960au. Ers hynny mae ei gyflwr wedi dirywio'n gyflym.

Yn Bresennol golygu

 
Adfail Gwylfa Hiraethog o'r ffordd A543

Ar hyn o bryd mae'r adeilad mewn cyflwr adfeiliedig iawn, gyda blaen yr adeilad yn rhannol gyfan, a dogn mewnol y tŷ wedi'i guddio gan rwbel sylweddol. Mae'r arfbais Devonport arysgrifedig uwchlaw'r drws ffrynt wedi'i symud i'r fferm Cym-y-Rhinwedd gerllaw.

Cyfeiriadau golygu

  1. The Illustrated London News. Illustrated London News & Sketch Limited. 1982.
  2. "GWYLFA HIRAETHOG SHOOTING LODGE | Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2020-12-16.