Gwylliaid Glyndŵr
Nofel i oedolion gan Daniel Davies yw Gwylliaid Glyn Dŵr. Y Lolfa a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2007. Yn 2019 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Daniel Davies |
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 04 Mehefin 2007 |
Pwnc | Nofelau Cymraeg i oedolion |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9780862439873 |
Disgrifiad byr
golyguNofel ddychanol yn dilyn ymgais herfeiddiol i ddwyn Llythyr Pennal o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn ôl broliant y llyfr hwn (2007):
Fawrth y chweched 1406 ysgrifennwyd Llythyr Pennal – un o lythyrau pwysicaf hanes Cymru, yn datgan breuddwyd Owain Glyndŵr am ddyfodol y genedl. I ddathlu chwe chan mlwyddiant ers ei ysgrifennu mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi sicrhau'r hawl i ddefnyddio'r llythyr mewn arddangosfa arbennig. Yr un pryd mae sawl lleidr a chenedlaetholwr brwd yn gweld cyfle euraid i gyflawni'r dasg arwrol o ddwyn Llythyr Pennal i Gymru am byth. Er mwyn cyflawni'r dasg fe sefydlir un o'r mudiadau lleiaf brawychus ond mwyaf cyfrwys a welodd Cymru ers y Free Wales Army – Gwylliaid Glyndŵr.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013