Polisi Pennal
Enw a roddir ar ddwy ddogfen bwysig yw Polisi Pennal, un ohonynt wedi ei llunio ym Mhennal yn ystod cyfarfod o gynulliad Owain Glyn Dŵr ym Mawrth 1406, a'r llall yn ffrwyth ymweliad llysgenhadaeth Owain â llys Brenin Ffrainc ym Mharis yn sgil cyfarfod Pennal.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | llythyr ![]() |
---|---|
Awdur | Owain Glyn Dŵr ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1406 ![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/f/f3/Glyndwr_Pennal_1406.jpg/250px-Glyndwr_Pennal_1406.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/33/Charte_scell%C3%A9e_du_Prince_Owain_Glyndwr_de_Galles-_Archives_nationales_-_J%CC%88-516-A-29.jpg/220px-Charte_scell%C3%A9e_du_Prince_Owain_Glyndwr_de_Galles-_Archives_nationales_-_J%CC%88-516-A-29.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/cb/Cefn_caer_2.jpg/250px-Cefn_caer_2.jpg)
Llythyr Owain Glyn Dŵr at Siarl VI o Ffrainc
golyguYsgrifennwyd y llythyr hwn ym mhlas Cefn Caer ym Mhennal, yn ôl traddodiad, a'i arwyddo yn Eglwys Sant Pedr ad Vincula (Sant Pedr yn ei Gadwynau), Pennal, ger Machynlleth. Yn y llythyr hwn mae Owain yn gofyn i Siarl am gymorth i ymladd yn erbyn y Saeson. Ni chafod ateb. Mae'r llythyr, fodd bynnag, yn dangos gweledigaeth Owain: sonia am eglwys annibynnol yng Nghymru, gydag archesgob yn Nhyddewi. Mae'n crybwyll hefyd yr angen am ddwy brifysgol: y naill yn y Gogledd a'r llall yn y de. Yn eironig iawn ar y diwrnod hwn yn 1820 y Datgysylltwyd Yr Eglwys yng Nghymru.
Cytundeb Owain a Siarl VI o Ffrainc
golyguYn ystod ei deyrnasiad, arwyddodd Siarl VI, brenin Ffrainc gytundeb gydag Owain Glyn Dŵr.
Llyfryddiaeth
golygu- T. Mathews (gol.), Welsh Records in Paris (Caerfyrddin, 1910).