Gwyn Jones (chwaraewr rygbi)

Mae Gwyn Jones (ganed 5 Hydref 1972) yn gyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol dros Gymru.

Gwyn Jones
Ganwyd5 Hydref 1972 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Safleblaenasgellwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Derbyniodd Jones ei addysg yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin, ac yna Ysgol Gyfun Gŵyr yn Nhregŵyr, Abertawe. Aeth ymlaen i Goleg Llanymddyfri ac yna i Goleg Meddygol Caerdydd.

Dangosodd Jones ddawn naturiol wrth chwarae rygbi. Bu'n Gapten ar dîm Cymru o dan 15 ac o dan 17 oed. Enillodd 5 cap dros ei wlad yn y categori o dan 18 oed.

Derbyniodd ei gap rhynglwadol cyntaf yn erbyn yr Eidal ym 1996 a'i gap olaf yn erbyn Seland Newydd ym 1997. Sgoriodd Jones un cais rhyngwladol.

Dioddefodd Jones anaf i'w gefn tra'n chwarae i glwb Caerdydd yn erbyn Abertawe ym 1997. Bryd hynny, roedd yn 25 oed, yn gapten Cymru ac wedi ennill 13 cap mewn gyrfa hir a llewyrchus.

Ar ôl yr anaf, ni allai Jones chwarae rygbi eto ond wedi iddo gael llawdriniaeth a thriniaeth ychwanegol dros gyfnod hir o amser, dysgodd i gerdded unwaith eto a dechreuodd ar yrfa fel sylwebydd rygbi a dychwelodd i'w yrfa fel meddyg yng Nghaerdydd.