Cyfraith ryngwladol
(Ailgyfeiriad o Gyfraith ryngwladol)
Term a ddefnyddir i gyfeirio at gyfraith sy'n rheoli ymddygiad gwladwriaethau annibynnol yn eu cysylltiadau a'i gilydd yw cyfraith ryngwladol. Mae'n wahanol i systemau cyfreithiol eraill gan ei bod yn ymwneud ag endidau gwleidyddol/gweinyddol yn hytrach na dinasyddion preifat yn bennaf. Gall y term cyfraith ryngwladol hefyd gyfeirio at dair wahanol ddisgyblaeth:
- Cyfraith ryngwladol gyhoeddus, sydd yn rheoli'r berthynas rhwng endidau gwladol/taleithiol ac endidau rhyngwladol, naill ai fel unigolyn neu fel grŵp. Mae'n cynnwys cyfraith gytundebau, cyfraith y môr, cyfraith droseddol ryngwladol, a chyfraith ddyngarol ryngwladol.
- Cyfraith ryngwladol breifat, sydd yn mynd i'r afael â'r cwestiynau ym mha awdurdodaeth y dylid cynnal achos llys, a chyfraith pa awdurdodaeth sydd yn gymwys at faterion yr achos.
- Cyfraith oruwchgenedlaethol, sydd yn ymwneud â chytundebau rhanbarthol lle datganir deddfau cenedl-wladwriaethau yn anghymwys os ydynt yn gwrthdaro â system gyfreithiol goruwchgenedlaethol.
Dwy gangen draddodiadol y maes yw:
- ius gentium — cyfraith cenhedloedd
- ius inter gentes — cytundebau rhwng cenhedloedd