Cyfraith
Rheolau swyddogol yw cyfraith, neu y gyfraith, sydd i'w darganfod mewn cyfansoddiadau a deddfwriaethau, a ddefnyddir i lywodraethu cymdeithas ac i reoli ymddygiadau ei haelodau. Yng nghymdeithasau modern, bu corff awdurdodedig megis senedd neu lys yn gwneud y gyfraith. Caiff ei chefnogi gan awdurdod y wladwriaeth, sydd yn gorfodi'r gyfraith trwy gyfrwng cosbau addas (gyda chymorth sefydliadau fel yr heddlu).
Math o gyfrwng | disgyblaeth academaidd |
---|---|
Math | rheol |
Rhan o | cymdeithas, llywodraeth |
Yn cynnwys | rheol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfraith sifil
golyguGallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Cyfraith droseddol
golyguGallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Cyfraith ryngwladol
golygu- Prif: Cyfraith ryngwladol
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Cyfraith Cymru
golyguLlysoedd
golyguY Llysoedd Barn Brenhinol sy'n delio gyda'r gyfraith droseddol a sifil.[1]
Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig yw goruchaf lys y DU gyfan (ers 2009) ar gyfer apeliadau cyfraith sifil. Mae ei awdurdod yn gyfyngedig i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.[2]
Llys Cyfiawnder Ewrop yw llys rhynglywodraethol yr Undeb Ewropeaidd (UE) â'i bencadlys yn Lwcsembwrg.
Datblygiad Cyfraith Cymru
golyguCyfraith Gyfoes Cymru yw'r term swyddogol am y drefn gyfreithiol ers 1 Ebrill 2007 sy'n caniatau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru greu deddfau yng Nghymru.[3]
Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Pasiwyd mesur i ddatgysylltu'r eglwys yn San Steffan yn 1914 ond ni ddaeth i rym tan 1920 oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Llys y Sesiwn Fawr oedd y Llys Droseddol dros Gymru rhwng pasio ail Ddeddf Uno 1542 a diddymiad y llys yn 1830.[4]
Roedd Deddfau Uno 1536 a 1543 yn ddwy ddeddf i uno Cymru'n wleidyddol â Lloegr ac i ddisodli'r iaith Gymraeg o unrhyw rôl swyddogol.
Casgliad o hen gyfreithiau yw Cyfraith Hywel a sefydlwyd yn y 10g. Daeth cyfreithwyr ynghyd yn Hendy-gwyn ar Dâf tua 945 i gysoni, diwygio, dileu a chyhoeddi y cyfreithiau.
Llyfryddiaeth
golygu- Robyn Lewis Termau cyfraith = Welsh legal terms (Llandysul: Gwasg Gomer, 1972)
- Robyn Lewis Geiriadur y gyfraith : Saesneg-Cymraeg = The Legal dictionary : English-Welsh (Llandysul: Gwasg Gomer, 1992) ISBN 0863835341
- Robyn Lewis Cyfiawnder dwyieithog? (Golwg ar yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg yn Llysoedd Ynadon Cymru) (Llandysul: Gwasg Gomer, 1998) ISBN 1859025498
- Robyn Lewis Geiriadur newydd y gyfraith = The new legal dictionary (Llandysul : Gomer, 2003) ISBN 1843231018
- K.O. Morgan, Freedom or Sacrilege? (1966)
- David Walker (gol.), A History of the Church in Wales (1976)
- Thomas Glyn Watkin The Legal History of Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2007) ISBN 9780708320648
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Llysoedd Barn Brenhinol. Gwasanaeth Llysoedd ei Mawrhydi. Adalwyd ar 17 Chwefror 2010.
- ↑ Y Goruchaf Lys. Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig. Adalwyd ar 17 Chwefror 2010.
- ↑ Deddfwriaeth. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 17 Chwefror 2010.
- ↑ Wales and the Law, c.1500-1800: The Court of Great Sessions in Wales 1543-1830. Early Modern Resources. Adalwyd ar 17 Chwefror 2010.
Dolenni allanol
golygu- Jurispedia Archifwyd 2021-04-08 yn y Peiriant Wayback Prosiect gwyddoniadurol cyfraith. (Arabeg), (Almaeneg), (Saesneg), (Ffrangeg), (Sbaeneg), (Iseldireg), (Portiwgaleg), Casacheg, Twrceg,(Tsieinëeg)
- Law.com Newyddion cyreithiol a rhwydwaith wybodaeth ar gyfer cyfreithwyr. (Saesneg)
- Law Server Erthyglau, newyddion a mapiau rhyngweithiol yn ymwueud â cyfraith. (Saesneg)
- WorldLII - World Legal Information Institute (Saesneg)
- CommonLII - Commonwealth Legal Information Institute (Saesneg)
- AsianLII - Asian Legal Information Institute (AsianLII) (Saesneg)
- AustLII - Australasian Legal Information Institute (Saesneg)
- BaiLII - British and Irish Legal Information Institute (Saesneg)
- CanLII - Institut Canadien d'Information Juridique/Canadian Legal Information Institute (Ffrangeg) (Saesneg)
- NZLII - New Zealand Legal Information Institute (Saesneg)
- PacLII - Pacific Islands Legal Information Institute (Saesneg)