Roedd HAFoc yn rhaglen deledu i blant ar S4C a gychwynnodd yn 1986 gan ddod i ben yn 1991.[1] Roedd yn olynydd i raglen Yr Awr Fawr a Hanner Awr Fawr.

HAFoc
Genre Rhaglenni plant
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 576i (4:3)
Darllediad gwreiddiol 19861991

Fe'i gynhyrchwyd gan BBC Cymru yn stiwdio Llandaf. Cyflwynwyr y rhaglen oedd Graham 'Grimbon' Pritchard, 'Jeifin Jenkins' (Iestyn Garlick) a Gaynor Davies.

Roedd y rhaglen yn cynnwys cartwnau, sgetshys, cystadlaethau a chyfarchion. Fe roedd cartwnau estron yn cael ei dybio i'r Gymraeg - gan cynnwys Now a Ned (Pat & Mat o'r weriniaeth Tsiec). Yn ddiweddarach roedd y rhaglen yn cynnwys is-raglen Caffi Ffortisimo, wedi ei osod mewn caffi Eidalaidd yng nghymoedd y De a'n cael ei redeg gan Jeifin Jenkins a'i frawd Handel (Huw Ceredig).

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ymchwil o Archif Sgrin a Sain Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-26. Cyrchwyd 2015-12-13.