Iestyn Garlick

actor a aned yn 1952

Actor, cynhyrchydd a cyflwynydd teledu o Gymro ydy Iestyn Garlick (ganwyd Gorffennaf 1952).[1] Mae'n adnabyddus am ei gymeriad 'Jeifin Jenkins' a oedd yn cyflwyno nifer o raglenni plant ar S4C yn cynnwys HAFoc, Jeifin a Jeifin yn bobman.

Iestyn Garlick
GanwydKevin Donnelly Edit this on Wikidata
Gorffennaf 1952 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata
TadRaymond Garlick Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Fe anwyd Iestyn Garlick yn Nazareth House, Abertawe yn y 1950au, yn blentyn i Mary Rose Donnelly, gyda'r enw Kevin Donnelly. Rhai misoedd yn ddiweddarach cafodd ei fabwysiadu gan y bardd Raymond Garlick a'i wraig Elin a rhoddwyd yr enw Iestyn Kevin Garlick iddo.[2]

Gyrfa golygu

Roedd yn aelod o'r grŵp Ac Eraill a perfformiodd yn yr opera roc Nia Ben Aur.

Yn y 1970au cyflwynodd y sioe gerddoriaeth Twndish. Bu'n cyflwyno ar y rhaglen i blant HAFoc fel ei gymeriad Jeifin Jenkins. Roedd yn un o'r cyflwynwyr gwreiddiol ar y rhaglen gylchgrawn Heno yn 1990. Cyflwynodd nifer o raglenni ar S4C yn cynnwys y sioeau cwis Hollol Bananas, Cwist a Sgrin Ti Syniad a'r rhaglenni adloniant Traed Oer, Gemau Heb Ffiniau a Penwythnos Mawr.

Mae'n un o sefydlwyr cwmni cynhyrchu teledu Antena.[3]

Actiodd yn y ffilm Madam Wen (1982) a'r cyfresi teledu Eye of the Dragon (1987) a The Life and Times of David Lloyd George (1981).[4]. Mae'n chwarae rhan y prifathro 'Jim Gym' yn y gyfres deledu Rownd a Rownd.

Mae hefyd wedi bod yn gyhoeddwr cyn gemau rhyngwladol yn Stadiwm y Mileniwm.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Tŷ'r Cwmniau - Iestyn Kevin Garlick. Tŷ'r Cwmniau. Adalwyd ar 1 Ionawr 2021.
  2. Safel Cynhyrchu S4C; adalwyd 16 Mehefin 15. Disgrifiad o raglen O'r Galon: Stori Iestyn, i'w darlledu yn 2016.
  3. Antena: 10 o swyddi yn y fantol
  4. Gwefan IMDb Adalwyd 20 Rhagfyr 2010
  5. "The late Huw Ceredig’s best friend Iestyn Garlick on what made the actor so special", WalesOnline; adalwyd 26 Rhagfyr 2011

Dolenni allanol golygu