Tref yng ngorllewin Tiwnisia yw Haïdra (Arabeg : حيدرة) neu Henchir Haïdra, a leolir ym mynyddoedd Dorsal Tiwnisia rhai cilomedrau o'r ffin rhwng Tiwnisia ac Algeria. Yn yr Henfyd roedd hi'n cael ei hadnabod fel Ammaedara.

Haïdra
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,100 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirKasserine Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau35.5672°N 8.4597°E Edit this on Wikidata
Cod post1221 Edit this on Wikidata
Map

Mae'n rhan o dalaith Kasserine gyda phoblogaeth o 3,109 (2004).

Mae'n gorwedd mewn ardal anghysbell tua hanner ffordd rhwng El Kef i'r gogledd a dinas Kasserine i'r de. Yn y mynyddoedd ger y dref ceir Bwrdd Jugurtha, a gysylltir â Jugurtha, brenin Numidia.

Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.