Hairspray (sioe gerdd)
- Mae'r erthygl hon yn sôn am y sioe gerdd. Am ddefnydd arall yr enw gweler Hairspray (gwahaniaethu)
Sioe gerdd ydy Hairspray. Ysgrifennwyd y gerddoriaeth gan Marc Shaiman, y geiriau gan Scott Wittman a Shaiman yn seiliedig ar ffilm John Waters o'r un enw ym 1988.
Hairspray | |
Logo Hairspray' | |
---|---|
Cerddoriaeth | Marc Shaiman |
Geiriau | Scott Wittman Marc Shaiman |
Llyfr | Mark O'Donnell Thomas Meehan |
Seiliedig ar | Hairspray (ffilm 1988) |
Cynhyrchiad | 2002 Broadway 2003 Taith yr Unol Daleithiau 2005 Toronto 2006 Fersiwn fer Las Vegas 2007 West End Llundain |
Gwobrau | Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau Gwobr Tony am y Llyfr Gorau Gwobr Tony am y Sgôr Gorau Sioe Gerdd Eithriadol Drama Desk Llyfr Eithriadol Drama Desk Cerddoriaeth Eithriadol Drama Desk Gwobr Laurence Olivier am y Sioe Gerdd Newydd Orau |
Stori
golyguYn Baltimore ym 1962, breuddwyd yr arddegwraig dew Tracy Turnblad yw dawnsio ar y The Corny Collins Show, rhaglen deledu dawns sy'n seiliedig ar y rhaglen go iawn "Buddy Deane Show". Pan enilla Tracy rhan ar y sioe, daw yn enwog dros nos. Yna dechreua ymgyrch er mwyn integreiddio'r sioe. Mae "Hairspray" yn sylwebaeth cymdeithasol ar anghyfiawnderau'r gymdeithas Americanaidd yn ystod y 1960au.