Agor y brif ddewislen

Baltimore, Maryland

(Ailgyfeiriad oddi wrth Baltimore)

Dinas ym Maryland, Unol Daleithiau America yw Baltimore. Dyma ddinas fwyaf talaith Maryland. Lleolir Baltimore yng nghanolbarth Maryland ar lan Afon Patapsco, sy'n llifo i Fae Chesapeake. Cyfeirir at Baltimore fel Baltimore City weithiau er mwyn gwahaniaethu rhyngddi a Swydd Baltimore, sef yr ardal o'i chwmpas. Wedi'i sefydlu yn 1729, mae Baltimore yn un o borthladdoedd mwyaf yr Unol Daleithiau.

Baltimore
DOWNTOWN BMORE 1.jpg
Map of Maryland highlighting Baltimore City.svg
Lleoliad o fewn
Gwlad Unol Daleithiau America
Ardal Maryland
Llywodraeth
Awdurdod Rhanbarthol Llywodraeth rheolwr-cynghorol
Maer Stephanie Rawlings-Blake
Daearyddiaeth
Arwynebedd 238.4 km²
Uchder 10 m
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 619,493 (Cyfrifiad 2010)
Dwysedd Poblogaeth 2,690,886 /km2
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser PST (UTC-5)
Cod Post 21201–21231, 21233–21237, 21239–21241, 21244, 21250–21252, 21263–21265, 21268, 21270, 21273–21275, 21278–21290, 21297–21298
Gwefan http://www.baltimorecity.gov/
Gweler hefyd: Baltimore (gwahaniaethu).

Yn 2008, roedd 636,919 o bobl yn byw yn Baltimore, ond mae gan Ardal Fetropolitaidd Baltimore boblogaeth o tua 2.7 miliwn, yr 20fed fwyaf yn UDA.

Enwir y ddinas ar ôl yr Arglwydd Baltimore o Iwerddon, prif sefydlwr Gwladfa Maryland. Cymerodd Baltimore ei hun ei deitl o enw lle ym mhlwyf Bornacoola, yn Swydd Leitrim a Swydd Longford, Iwerddon. Seisnigiad yw 'Baltimore' o'r enw lle Gwyddeleg Baile an Tí Mhóir, sy'n golygu "Tre'r Tŷ Mawr" (nid yr un lle yw hwn â Baltimore, Swydd Corc, sef Dún na Séad yn Wyddeleg.

Adeiladau a chofadeiladauGolygu

  • Cofeb Washington
  • Neuadd y Dinas
  • Tŵr Emerson Bromo-Seltzer

EnwogionGolygu

GefeillddinasoeddGolygu

Dolenni allanolGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Maryland. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.