Half Man Half Biscuit
Mae Half Man Half Biscuit yn grŵp roc indie o Benbedw, sefydlwyd ym 1984, sy'n adnabyddus am ganeuon eironig a swreal. Mae'r steil cerddorol yn aml yn barodi o genres poblogaidd, tra bod y geiriau'n aml yn cyfeirio at ddiwylliant poblogaidd fel pêl-droed a rhaglenni teledu.[1]
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Label recordio | Probe Plus |
Dod i'r brig | 1984 |
Dechrau/Sefydlu | 1984 |
Genre | roc indie |
Gwefan | http://www.hmhb.co.uk |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Aelodau'r band ydy Nigel Blackwell (prif leisydd, gitâr), Neil Crossley (bas), Ken Hancock (prif gitâr), a Carl Henry (drymiau).
Mae canwr y band Nigel Blackwell wedi dysgu Cymraeg ac ymddangosodd ar raglen Radio Cymru Rhys Mwyn ym mis Mawrth 2019. Mae geiriau Blackwell yn aml yn cyfeirio at ogledd Cymru a cherdded yn Eryri. [2]
Cyrhaeddodd sengl gyntaf y band, The Trumpton Riots, yn Rhif 1 yn y siart annibynnol ym 1986. Aeth y band ymlaen i berfformio yng Ngŵyl Glastonbury. Wrth i'w sengl nesaf Dickie Davies Eyes fynd i'r prif siart 40 uchaf, cyhoeddodd y prif ganwr Nigel Blackwell ei ymddeoliad gan ddweud bod llwyddiant roc a rôl wedi arwain at golli gormod o deledu yn ystod y dydd. Ym 1986 rhyddhawyd albwm o gasgliad a dychweliad Nigel i'r dôl.
Ail-ffurfiodd y band yn 1990 ond yn perfformio'n anaml, gan ffafrio gigs un noson i deithiau. Mae'r band yn gyrru adref bob nos i gysgu yn eu gwelyau eu hunain a threfnu cyngherddau i gyd-fynd â gemau pêl-droed Tranmere Rovers - tîm Neil a Nigel. Gwrthododd Half Man Half Biscuit y cyfle i ymddangos ar y sioe deledu cerddoriaeth fwyaf poblogaidd yr 80au The Tube, am fod Tranmere yn chwarae'r noson honno, er bod Channel Four wedi cynnig eu hedfan mewn hofrennydd i'r gêm ar ôl y rhaglen. [3]
Recordiodd Half Man Half Biscuit ddeuddeg sesiwn ar gyfer rhaglen BBC Radio One John Peel rhwng 1984 a 2004.
Aelodau
golygu- Neil Crossley (Bas, llais) 1984-presennol
- Nigel Blackwell (Gitâr, llais) 1984-presennol
- Karl Benson (Gitâr) 2017-presennol
- Carl Henry (Drymiau) 1996-presennol
Cyn aelodau
golygu- Paul Wright (Drymiau) 1984-1993
- David Lloyd (Allweddellau) 1984-1993
- Simon Blackwell (Gitâr) 1984-1994
- Ian Jackson (Gitâr) 1994-1996
- Carl Alty (Drymiau) 1993-1996
- Ken Hancock (Gitâr) 1996-2017
Discograffi
golygu- Back in the DHSS (1985)
- Back Again in the DHSS (1987)
- McIntyre, Treadmore and Davitt (1991)
- This Leaden Pall (1993)
- Some Call It Godcore (1995)
- Voyage to the Bottom of the Road (1997)
- Four Lads Who Shook the Wirral (1998)
- Trouble over Bridgwater (2000)
- Cammell Laird Social Club (2002)
- Achtung Bono (2005)
- CSI:Ambleside (2008)
- 90 Bisodol (Crimond) (2011)
- Urge for Offal (2014)
- No-One Cares About Your Creative Hub So Get Your Fuckin' Hedge Cut (2018)
- The Voltarol Years (2022)
Cyfeiriadau
golygu