Penbedw

tref yng Nghilgwri

Tref yng Nglannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Penbedw (Saesneg: Birkenhead).[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Cilgwri. Saif ar lan Afon Merswy, ar benrhyn Cilgwri gyferbyn â Lerpwl.

Penbedw
Mathdinas fawr, ardal ddi-blwyf Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Fetropolitan Cilgwri
Poblogaeth142,968 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iLatina Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGlannau Merswy
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd25.18 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.38°N 3.02°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ324890 Edit this on Wikidata
Cod postCH41 Edit this on Wikidata
Map

Mae ganddi boblogaeth o oddeutu 83,729.[2] Mae Caerdydd 212.3 km i ffwrdd o Benbedw ac mae Llundain yn 288.5 km. Y ddinas agosaf ydy Lerpwl sy'n 7.6 km i ffwrdd.

Hanes golygu

Adeiladwyd Priordy benedictaidd Penbedw yn 1150.[3] Yn ddiweddarach adeiladwyd porthladd a thyfodd diwydiant adeiladu llongau yno.

Adeiladwyd y llong Dinbych ym Mhenbedw.

 
Iard Cammell Laird

Adeiladu llongau golygu

Dechreuwyd y dywidiant adeiladu llongau ym 1829.[4] Sefydlwyd gwaith haearn gan William Laird ym 1824. Ymunoedd ei fab John Laird â’r prosiect ym 1828. Daeth y cwmni Cammell Laird.

Statws golygu

Ar un adeg, oedd Penbedw yn rhan o blwyf Bidston. Daeth Penbedw yn fwrddeistref drefol ym 1877, ac yn fwrddeistref sirol yn 1888. Roedd plwyf Penbedw Santes Fair, Bidston, Claughton, Oxton, Tranmere, a rhan o Bebington yn rhan o’r fwrddeistref. Ychwanegwyd Landican, Prenton a Thingwall ym 1928, a Noctorum, Upton a Woodchurch ym 1933.[5] Hyd at 1af Ebrill 1974, roedd Penbedw a gweddill Cilgwri yn rhan o Swydd Gaer; wedyn collodd Penbedw ei statws fel bwrddeistref sirol, a daeth yn rhan o Fwrddeistref Cilgwri yn Sir Glannau Merswy.

Trafnidiaeth golygu

 
Simne allyriadau Twnnel Queensway
 
Gorsaf reilffordd Sgwâr Hamilton

Fferiau golygu

Dechreuodd y wasanaeth fferi gyntaf dros yr afon yn 1150.[6] Dechreuodd gwasanaeth fferi stêm rhwng Tranmere a Lerpwl ym 1817 ac un rhwng Woodside a Lerpwl ym 1822.[7]

Ffyrdd golygu

Mae 2 dwnnel o dan Afon Merswy yn cysylltu Penbedw â Lerpwl, Twnnel Kingsway a Thwnnel Queensway. Agorwyd Twnnel Queensway ym 1934.

Rheilffyrdd golygu

Trefnir rheilffyrdd yr ardal gan Merseyrail. Agorwyd twnnel rheilffordd rhwng Penbedw â Lerpwl ym 1886, ac mae trenau’n mynd ymlaen o Benbedw i Gaer, Ellesmere Port, West Kirby a New Brighton.

Eisteddfod Genedlaethol golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhenbedw ym 1917. Dyfarnwyd y Gadair i Hedd Wyn, oedd wedi'i ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Am wybodaeth bellach gweler:

Enwogion golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 22 Medi 2021
  2. Gwefan ystadegau'r Cyfrifiad Cenedlaethol: Swyddfa Ystadegau Gwladol; adalwyd 09/02/2013
  3. Birkenhead Priory, Metropolitan Borough of Wirral, archifwyd o y gwreiddiol ar 4 March 2008, https://web.archive.org/web/20080304004402/http://www.wirral.gov.uk/LGCL/100009/200070/1017/content_0000524.html, adalwyd 14 Ionawr 2008
  4. Birkenhead-Built: An Unrivaled Historical Legacy, Institute of Nautical Archaeology, Prifysgol Texas A&M, http://nautarch.tamu.edu/PROJECTS/denbigh/Laird.htm
  5. Birkenhead – An Illustrated History|first=Ralph T|last=Brocklebank|publisher=Breedon Books|page=110|year=2003|isbn=1-85983-350-0
  6. Brocklebank, Ralph T (2003), Birkenhead – An Illustrated History, Breedon Books, pp. 14–15, ISBN 1-85983-350-0
  7. Mersey ferries, Amgueddfeydd Liverpool, http://www.liverpoolmuseums.org.uk/maritime/archive/pdf/Ships-Mersey%20Ferries%20no27.pdf, adalwyd 24 August 2012

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Glannau Merswy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato