Mae hanes India yn dechrau gyda dechreuad sefydliadau parhaol tua 9,000 o flynyddoedd yn ôl yn y diriogaeth a ddaeth yn India yn ddiweddarach. Yn yr ardal o amgylch Afon Indus, datblygodd rhain i greu Gwareiddiad Dyffryn Indus tua 3300 CC.; un o'r gwareiddiadau cynharaf yn hanes dynoliaeth. Dilynwyd y cyfnod yma gan y Cyfnod Fedig, pan osodwyd seiliau crefydd Hindwaeth. O tua 550 CC. sefydlwyd nifer o deyrnasoedd a elwid y Mahajanapadas ar draws y wlad.

Y Taj Mahal, adeilad enwocaf Ymerodraeth y Mughal

Yn y 3 CC, roedd India a rhannau eraill o dde Asia yn rhan o Ymerodraeth Maurya dan Ashoka Fawr. O tua 180 CC bu nifer o ymosodiadau ac ymfudiadau o'r gogledd. O'r 3g OC sefydlwyd Ymerodraeth y Gupta.

O'r 12g ymlaen, daeth gogledd India gan ddylanwad rheolwyr Islamaidd, yn wreiddiol o Ganolbarth Asia; yn gyntaf Swltaniaeth Delhi, ac yn ddiweddarach Ymerodraeth y Mughal. Cyrhaeddodd Ymerodraeth y Mughal ei hanterth yn ystod teyrnasiad Akbar Mawr o 1556 hyd 1605. Yn ne India, roedd nifer o deyrnasoedd brodorol, megis Ymerodraeth Vijayanagara. Ganychodd pwer y Mughal yn y 17ed a'r 18g, a daeth Ymerodraeth Maratha yn bwerus. Yn ystod y 18g, dechreuodd nifer o wledydd Ewropeaidd sefydlu tiriogaethau, ac erbyn 1856, roedd y rhan fwyaf o India yng ngafael y British East India Company.

Y flwyddyn wedyn bu gwrthryfel ar raddfa fawr, Gwrthryfel India 1857. Cafodd y gwrthryfelwyr gryn lwyddiant at y cychwyn, ond yn y diwedd gorchfygwyd hwy gan y fyddin Brydeinig. Daeth India'n rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig.

Mahatma Gandhi yn 1931

Dechreuodd mudiad cenedlaethol ym mlynyddoedd cynnar yr 20g, ac yn y 1920au a'r 1930au bu cyfres o brotestiadau di-drais dan arweniad Mahatma Gandhi. Ar 15 Awst 1947, daeth India yn wlad annibynnol, ond daeth rhan o'i thiriogaeth yn wlad Pacistan. Jawaharlal Nehru oedd y Prif Weinidog cyntaf. Dair blynedd yn ddiweddarach, ar 26 Ionawr 1950, daeth India yn weriniaeth.

Ers hynny, bu rhyfel a Gweriniaeth Pobl Tsieina yn 1962 ynghylch y ffin yn y gogledd-ddwyrain, a bu tri rhyfel yn erbyn Pacistan, yn 1947, 1965 a 1971. Yn 1974, arbrofodd India fom atomig, gydag arbrofion pellach yn 1998. Ar 31 Hydref 1984 llofruddiwyd y Prif Weinidog Indira Gandhi gan aelodau o'i gwarchodlu Sikh. Cymerodd ei mab hynaf Rajiv Gandhi yr awenau. Ers newidiadau economaidd yn 1991, mae economi India wedi tyfu'n gyflym, ac o ganlyniad mae dylanwad rhyngwladol y wlad wedi cynyddu.

Yn etholiad cyffredinol Mai 2004, enillodd cynghrair o bleidiau dan arweiniad Plaid y Gyngres fwyafrif, a daeth Manmohan Singh yn Brif Weinidog.