Hans Massaquoi
Awdur croenddu o'r Almaen oedd Hans Massaquoi (19 Ionawr 1926 – 19 Ionawr 2013). Mae'n enwog am ysgrifennu cofiant o'i blentyndod yn yr Almaen Natsïaidd, Destined to Witness: Growing Up Black in Nazi Germany (1999). Nyrs o Almaenes oedd ei fam a mab diplomydd Liberiaidd oedd ei dad, a chafodd Hans ei fagu yn Hambwrg. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd ymfudodd i'r Unol Daleithiau a daeth yn rheolwr golygyddol cylchgrawn Ebony.[1][2]
Hans Massaquoi | |
---|---|
Ganwyd | 19 Ionawr 1926 Hamburg |
Bu farw | 19 Ionawr 2013 Jacksonville |
Dinasyddiaeth | Liberia, yr Almaen, Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, newyddiadurwr, gohebydd gyda'i farn annibynnol |
Swydd | prif olygydd |
Adnabyddus am | Destined to Witness: Growing Up Black in Nazi Germany |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Frisaro, Freida (23 Ionawr 2013). Hans Massaquoi, who grew up black in Nazi Germany, dies at 87. The Washington Post. Adalwyd ar 4 Chwefror 2013.
- ↑ (Saesneg) Hans Massaquoi: Journalist who grew up black in Nazi Germany. The Independent (26 Ionawr 2013). Adalwyd ar 4 Chwefror 2013.