Harold Garfinkel
Cymdeithasegwr Americanaidd oedd Harold Garfinkel (29 Hydref 1917 – 21 Ebrill 2011) sydd yn nodedig am arloesi ethnomethodoleg.
Harold Garfinkel | |
---|---|
Ganwyd | 29 Hydref 1917 Newark, New Jersey |
Bu farw | 21 Ebrill 2011 o methiant y galon Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | cymdeithasegydd, addysgwr, academydd |
Cyflogwr |
Ganed yn Newark, New Jersey, yn fab i ddyn busnes. Astudiodd gyfrifeg yng Ngholeg Newark a throdd ei sylw at gymdeithaseg. Derbyniodd ei radd meistr mewn cymdeithaseg o Brifysgol Gogledd Carolina yn 1942. Pwnc ei draethawd ymchwil oedd cysylltiadau hiliol yn ne'r Unol Daleithiau.[1] Gwasanaethodd yn swydd hyfforddwr yng Nghorfflu Awyr y Fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Astudiodd Garfinkel am ei ddoethuriaeth dan diwtoriaeth Talcott Parsons ym Mhrifysgol Harvard. Ymunodd â chyfadran Prifysgol Califfornia, Los Angeles, yn 1954, a bu yno nes iddo ymddeol yn 1987 pryd gafodd ei benodi yn athro emeritws cymdeithaseg.[1] Cafodd ddylanwad pwysig ar y maes yn sgil cyhoeddi ei gyfrol Studies in Ethnomethodology yn 1967.
Priododd Garfinkel ag Arlene Steinbach yn 1945 a chawsant ferch, Leah, a mab, Mark. Bu farw yn 93 oed o fethiant y galon yn ei gartref yn Pacific Palisades, Califfornia.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Michael Lynch, "Harold Garfinkel obituary", The Guardian (13 Gorffennaf 2011). Adalwyd ar 27 Ionawr 2020.
- ↑ (Saesneg) Bruce Weber, "Harold Garfinkel, a Common-Sense Sociologist, Dies at 93", The New York Times (3 Mai 2011). Adalwyd ar 27 Ionawr 2020.