Newark, New Jersey
Newark yw'r ddinas fwyaf yn nhalaith New Jersey, a'r ganolfan weinyddol ar gyfer Swydd Essex. Mae gan Newark boblogaeth o 281,402, gan ei gwneud y bwrdeisdref fwyaf yn New Jersey a'r 65fed ddinas fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Mae Newark hefyd yn gartref i nifer o gorfforaethau mawrion, megis Prudential Financial.
Dinas Newark | |
---|---|
Lleoliad o fewn New Jersey | |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Ardal | New Jersey |
Llywodraeth | |
Awdurdod Rhanbarthol | Cyngor Maerol |
Maer | Ras Baraka |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 67.3 km² |
Uchder | 9 m |
Demograffeg | |
Poblogaeth Cyfrifiad | 281,402 (Cyfrifiad 2006) |
Dwysedd Poblogaeth | 4,400 /km2 |
Metro | 18,818,536 |
Gwybodaeth Bellach | |
Cylchfa Amser | EST (UTC-5) |
Cod Post | 07100-07199 |
Gwefan | http://www.ci.newark.nj.us/ |
Fe'i lleolir tua 8 milltir (13 km) i'r gorllewin o Manhattan a 2 filltir (3.2 km) i'r gogledd o Ynys Staten. Oherwydd ei lleoliad ger Cefnfor yr Iwerydd ym Mae Newark mae Porthladd Newark wedi datblygu i fod yn brif borthladd mewnforio ym Mae Newark ac yn Harbwr Efrog Newydd. Ynghyd ag Elizabeth, mae Newark yn gartref i Maes Awyr Rhyngwladol Newark Liberty, sef y prif faes awyr cyntaf i wasanaethu ardal fetropolitaidd Efrog Newydd.
EnwogionGolygu
- Allen Ginsberg (1926-1997), bardd
- Jerry Lewis (1926-2017), actor a chomediwr
- Whitney Houston (1963-2012), cantores
- Paul Simon (g. 1941), cerddor a chyfansoddwr
Gefeilldrefi NewarkGolygu
Dolenni allanolGolygu
- (Saesneg) Gwefan Dinas Newark