Harold Lloyd

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm ac actor a aned yn Burchard yn 1893

Cyfarwyddwr, actor a seren ffilm Americanaidd o dras Cymreig oedd Harold Clayton Lloyd (20 Ebrill 18938 Mawrth 1971). Mae'n fwyaf enwog am ei stynts mewn ffilmiau mud e.e. Safety Last! (1923) ble mae'n hongiad o gloc enfawr.[1][2]

Harold Lloyd
GanwydHarold Clayton Lloyd Edit this on Wikidata
20 Ebrill 1893 Edit this on Wikidata
Burchard Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mawrth 1971 Edit this on Wikidata
Beverly Hills Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • San Diego High School
  • East High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, actor, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, ffotograffydd, perfformiwr stỳnt, digrifwr, cynhyrchydd gweithredol, ysgrifennwr, arlunydd, cynhyrchydd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1900 Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadCharles Chaplin Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
PriodMildred Davis Edit this on Wikidata
PlantGloria Lloyd, Harold Lloyd Jr. Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Anrhydeddus yr Academi, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.haroldlloyd.com/ Edit this on Wikidata
Portread gan Alfred Cheney Johnston (1921)
Hysbyseb (1919)

Cafodd ei eni yn Burchard, Nebraska, yn fab i J. Darsie "Foxy" Lloyd. Priododd yr actores Mildred Davis yn 1923.

Actiodd wrth ochr Charlie Chaplin a Buster Keaton, yn un o actorion mwyaf poblogaidd ei gyfnod, ac roedd ei ddylanwad ar ffilmiau mud y cyfnod yn enfawr. Gwnaeth oddeutu 200 o ffilmiau comedi rhwng 1914 a 1947 ac efallai mai'r mwyaf poblogaidd oedd y cymeriad "Glasses" a chwaraeodd,[3][4] cymeriad llwyddiannus, ymarferol a oedd a'i fus ar byls yr Unol Daleithiau yn y 1920au.

Er nad oedd ei ffilmiau mor llwyddiannus a rhai Chaplin yn fasnachol, roedd llawer mwy ohonynt yn dod allan o'i stabl. Ymddangosodd 12 ffilm lawn yn y 1920au, gyda dim ond 4 yn gan Chaplin. Roedd cyfanswm incwm ei ffilmiau hefyd yn uwch: $15.7 miliwn o'i gymharu â $10.5 m o incwm ffilmiau Chaplin.

Ffilmiau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Obituary Variety, 10 Mawrth 1971, tud. 55.
  2. Slide, Anthony (27 Medi 2002). Silent Players: A Biographical and Autobiographical Study of 100 Silent Film Actors and Actresses. Univ. Press of Kentucky. t. 221. ISBN 978-0813122496.
  3. Austerlitz, Saul (2010). Another Fine Mess: A History of American Film Comedy. Chicago Review Press. p. 28. ISBN 1569767637.
  4. D’Agostino Lloyd, Annette. "Why Harold Lloyd Is Important". haroldlloyd.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-01. Cyrchwyd November 12, 2013.


  Eginyn erthygl sydd uchod am actor Americanaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.