Harry Potter and the Chamber of Secrets
Harry Potter and the Chamber of Secrets ("Harri Potter a'r Siambr Gyfrinachau") yw'r ail nofel yng nghyfres Harri Potter a ysgrifennwyd gan J. K. Rowling. Nid yw eto wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg, ond cyfieithwyd y nofel gyntaf yn y gyfres, Harri Potter a Maen yr Athronydd, gan Emily Huws yn 2003.
Clawr papur y llyfr | |
Math o gyfrwng | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | J. K. Rowling |
Cyhoeddwr | Bloomsbury |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1998 |
ISBN | 0747538492 |
Dechrau/Sefydlu | 2 Gorffennaf 1998 |
Darlunydd | Cliff Wright |
Genre | Ffantasi |
Cyfres | Harri Potter |
Rhagflaenwyd gan | Harri Potter a Maen yr Athronydd |
Olynwyd gan | Harry Potter and the Prisoner of Azkaban |
Cymeriadau | Harri Potter, Lord Voldemort, Ginny Weasley, Hermione Granger, Ron Weasley, Dobby, Gilderoy Lockhart, Draco Malfoy, Rubeus Hagrid, Albus Dumbledore |
Prif bwnc | dewin ffuglennol |
Lleoliad y gwaith | Hogwarts Castle, Chamber of Secrets, Forbidden Forest, Yr Alban |
Mae'r stori yn dilyn ail flwyddyn Harri yn Ysgol Hudoliaeth a Dewiniaeth Hogwarts, pan ymddangosai cyfres o negeseuon ar waliau coridorau’r ysgol yn rhybuddio bod y "Siambr Gyfrinachau" wedi ei agor, a bod "etifedd Slafennog" yn mynd i ladd holl ddisgyblion nad ydynt yn dod o deuluoedd dewinol. Dilynir y bygythiadau gan ymosodiadau sy'n gwneud trigolion yr ysgol yn "petrified" (hynny yw, wedi'u rhewi). Trwy gydol y flwyddyn, mae Harri a'i ffrindiau Ron Weasley ac Hermione Granger yn ymchwilio mewn i’r ymosodiadau, a daw Harri wyneb yn wyneb gyda’r Arglwydd Voldemort, sydd yn ceisio adennill grym cyflawn.
Cyhoeddwyd y llyfr yn y Deyrnas Unedig trwy’r Saesneg ar 2 Gorffennaf 1998 gan y cyhoeddwyr Bloomsbury. Er mae’n debyg bod Rowling wedi'i chael yn anodd gorffen y llyfr, enillodd clod uchel gan feirniaid, darllenwyr ifanc a'r diwydiant llyfrau. Er hynny, honnai rhai beirniaid bod y stori’n rhy frawychus ar gyfer plant iau. Mae rhai awdurdodau crefyddol wedi condemnio ei defnydd o themâu hudol, tra bod eraill wedi canmol ei phwyslais ar hunanaberth ac ar y ffordd mae cymeriad person yn ganlyniad i’w ddewisiadau.
Mae nifer o sylwebyddion wedi nodi bod hunaniaeth bersonol yn thema gref yn y llyfr, a'i fod yn mynd i'r afael â materion o hiliaeth trwy drin cymeriadau nad ydynt yn hudol, yn ddi-ddynol a rhai nad ydynt yn fyw. Mae rhai sylwebyddion yn ystyried y dyddiadur yn rhybudd rhag derbyn anfeirniadol o wybodaeth o ffynonellau mae eu cymhellion a dibynadwyedd ni ellir eu gwirio. Ceir bortread o Awdurdodau Sefydliadol fel pethau hunan-gwasanaethu ac yn anghymwys.
Daeth y fersiwn ffilm (a chafodd ei rhyddhau yn 2002) i fod y drydedd ffilm erioed i ennill fwy na $600 miliwn mewn gwerthiannau'r swyddfa docynnau rhyngwladol.