Hawliau LHDT yng Nghatar
Nid yw llywodraeth Catar—un o wladwriaethau Arabaidd y Gwlff, a chanddi fwyafrif Mwslimaidd—yn cydnabod hawliau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, a thrawsryweddol (LHDT). Mae deddfau'r wlad yn tynnu'n gryf ar y gyfraith Islamaidd, sharia, sydd yn ystyried cyfunrywioldeb yn anfoesol. Cosbir gweithgareddau rhywiol rhwng gwrywod gyda dedfryd o garchar am saith mlynedd yn ôl erthygl 285 o gôd penydiol Catar,[1] ac mae erthygl 296 yn cosbi "cymhelliad neu lathrudd" i sodomiaeth gyda charchar am dair blynedd.[2] Mae'r gyfraith hefyd yn caniatáu'r gosb eithaf i Fwslimiaid ar gyfer zina (rhyw y tu allan i briodas) o unrhyw fath; gan na chydnabyddir priodas gyfunryw, mae unrhyw gweithgareddau cyfunrywiol felly â chosb marwolaeth mewn egwyddor, ond nid oes yr un achos o unigolyn yn cael ei ddienyddio am gyfunrywioldeb.[3]
Cwpan y Byd Pêl-droed 2022
golyguCaiff penderfyniad Ffederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Pêl-droed (FIFA) yn 2010 i ddewis Catar i gynnal Cwpan y Byd Pêl-droed yn 2022 ei feirniadu oherwydd y sefyllfa parthed hawliau LHDT yn y wlad. Yn 2020, datganodd llywodraeth Catar y byddai'r wlad yn ufuddhau i reolau FIFA ac yn hyrwyddo goddefiad a chynhwysiad wrth gynnal y gystadleuaeth. Er enghraifft, derbyniodd FIFA sicrhad na fyddai symbolau o blaid hawliau LHDT, megis y faner enfys, yn cael eu gwahardd.[4] Fodd bynnag, wrth ddynesu at y gystadleuaeth, mynegwyd rhagor o bryderon am bobl LHDT yn y wlad.[5] Cyhuddwyd FIFA gan y sefydliad anllywodraethol Human Rights Watch o esgeuluso'i cyfrifoldeb i warchod hawliau dynol pobl LHDT yn unol ag Egwyddorion Arweiniol Busnes a Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig a fabwysiadwyd gan FIFA yn 2016.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Yasemin Smallens, "LGBT Qataris Call Foul Ahead of 2022 World Cup", Human Rights Watch (24 Tachwedd 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Tachwedd 2022.
- ↑ (Saesneg) "Qatar: Events of 2020", Human Rights Watch. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Tachwedd 2022.
- ↑ (Saesneg) Daniel Megarry, "Here are the 11 countries where being gay is punishable by death", Gay Times. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 31 Gorffennaf 2021.
- ↑ (Saesneg) "2022 World Cup: Qatar to allow LGBTQ displays, rainbow flags in stadiums", ESPN (10 Rhagfyr 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 20 Gorffennaf 2021.
- ↑ (Saesneg) Joshua Nevett, "World Cup: Ministers urged to warn LGBT+ fans about Qatar risks", BBC (11 Tachwedd 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Tachwedd 2022.
- ↑ (Saesneg) Rasha Younes, "A World Cup of Shame: FIFA Fails LGBT Rights Test in Qatar", Human Rights Watch (7 Gorffennaf 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Tachwedd 2022.