Human Rights Watch
Corff heb gysylltiad â llywodraeth sy'n amddiffyn hawliau dynol yw Human Rights Watch (HRW). Lleolir ei bencadlys yn Ninas Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau ac mae ganddo swyddfeydd mewn sawl dinas o gwmpas y byd. Fe'i sefydlwyd yn 1988 ar ôl cyfuno sawl mudiad, yn enwedig Helsinki Watch. Rhoddwyd wobr Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig i Human Rights Watch yn 2008 (ar y cyd â Louise Arbour, Benazir Bhutto, Ramsey Clark, yr Athro Carolyn Gomes, yr Athro Denis Mukwege a'r Chwaer Dorothy Stang)[1]
Enghraifft o'r canlynol | international non-governmental organization, sefydliad di-elw, sefydliad hawliau dynol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1978, 1988 |
Sylfaenydd | Robert L. Bernstein, Aryeh Neier, Jeri Laber |
Rhagflaenydd | Helsinki Watch |
Aelod o'r canlynol | International Freedom of Expression Exchange, Campaign to Stop Killer Robots, Forum Menschenrechte |
Gweithwyr | 450 |
Ffurf gyfreithiol | non-profit organisation, sefydliad 501(c)(3) |
Asedau | 242,488,346 $ (UDA) 242,488,346 $ (UDA) (2021) |
Pencadlys | Dinas Efrog Newydd |
Gwefan | https://www.hrw.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae HRW yn gweithredu ar lefel ryngwladol i geisio sicrhau fod y Datganiad Cyffredinol ar Hawliau Dynol yn cael ei barchu ymhob gwlad, er enghraifft mewn perthynas â rhyddid mynegiant, yn cynnwys rhyddid y wasg. Mae'n ceisio dod â throseddau rhyfel â masnachu arfau anghyfreithlon i sylw'r byd ac yn barod i feirniadu llywodraethau sy'n euog o hynny. Mewn canlyniad mae HRW wedi cael ei feirniadu gan rai am fod yn fudiad gydag amcanion gwleidyddol, er enghraifft pan gondemniodd Llu Amddiffyn Israel am ei ddefnydd o ffosfforws gwyn yn Gaza yn 2009.