Hawliau sydd yn perthyn i aelodau grŵp gymdeithasol benodol yw hawliau grŵp. Fe'i cyferbynnir ag hawliau'r unigolion, sef hawliau dynol sydd yn perthyn i fodau dynol ac hawliau sifil sydd yn perthyn i ddinasyddion. Mae'r rhai sydd o blaid hawliau grŵp yn dadlau eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bodolaeth grwpiau penodol, er enghraifft cymunedau ieithyddol, gan fod y grwpiau hynny yn dibynnu ar ffordd o fyw gyfunol ac nid yw hawliau unigol yn gallu gwarantu hynny. Mae'r rhai sydd yn gwrthwynebu hawliau grŵp yn ei ystyried yn fodd o arwahanu a gwahaniaethu yn erbyn pobl nad yw'n rhan o'r grwpiau dan sylw.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Roger Scruton, The Palgrave Macmillan Dictionary of Political Thought 3ydd argraffiad (Basingstoke: Palgrave Macmillan, 2007), t. 284.