Haydn Davies
cricedwr
Cricedwr o Gymru oedd Haydn George Davies, (23 Ebrill 1912 - 4 Medi 1993).
Haydn Davies | |
---|---|
Ganwyd | 23 Ebrill 1912 Llanelli |
Bu farw | 4 Medi 1993 Hwlffordd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cricedwr |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Marylebone Cricket Club, Clwb Criced Morgannwg |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cafodd ei eni yn 1912 yn Llanelli lle cafodd ei addysg, cyn symud i Brifysgol Aberystwyth. Am gyfnod, yn ystod y Rhyfel bu yn yr awyrlun.
Dechreuodd chwarae criced i dîm Morgannwg yn 1935. Ym 1939 daliodd saith batiwr yn y gêm yn erbyn India'r Gorllewin a chynorthwyodd i gael gwared a chwe batiwr yn y gêm yn erbyn Swydd Gaerlŷr. Ni fethodd un gêm bencampwriaeth rhwng 1947 a 1957, ac ymddangosodd mewn 254 o gemau'n olynol. Yn achlysurol bu'n gapten ar Forgannwg yn absenoldeb Wilfred Wooller.