Hazel Walford Davies

llenor

Uwch-ddarlithydd ac awdur o Fancffosfelen yw Hazel Walford Davies (geni Ionawr 1940).[1]

Hazel Walford Davies
GanwydIonawr 1940 Edit this on Wikidata
Sir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, darlithydd Edit this on Wikidata
PlantJason Walford Davies, Damian Walford Davies Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Bu Hazel Walford Davies yn Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn Athro ym Mhrifysgol Morgannwg. O 2006 hyd at 2011, bu’n gadeirydd Bwrdd Rheoli’r Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg sydd bellach wedi’i ymgorffori yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyflawnodd, gyda hynny, waith pwysig ar adeg sefydlu’r Coleg Cymraeg. Yn 2014 fe'i hetholwyd yn gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru [2]. Yn 2017 cyflwynodd darlith flynyddol Anrhydeddus Cymdeithas y Cymrodorion ar Yr Arglwydd Howard de Walden. Fe'i hurddwyd yn aelod wisg wen o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008.[3]

Hi yw awdur Saunders Lewis a Theatr Garthewin (1995) a golygydd State of Play (1998), One Woman, One Voice (2000, 2005), Llwyfannau Lleol (2000) a Now You're Talking (2005). Cyhoeddodd hefyd gyfrolau yn ymwneud â bywyd a gwaith Syr O. M. Edwards. Bu'n aelod o Gyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn Gadeirydd Canolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg Prifysgol Cymru.

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Hazel Walford DAVIES - Personal Appointments (free information from Companies House)". beta.companieshouse.gov.uk. Cyrchwyd 2019-11-13.
  2. "Hazel Walford Davies". Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Cyrchwyd 2019-11-13.
  3. "Also honoured with the white robe are Bethan Bryn, Aberystwyth; Hazel Walford Davies, Aberystwyth;". Daily Post, North Wales Live. 2008-06-24. Cyrchwyd 2019-11-13.
  4. Davies, Hazel Walford (1988). Syr O.M. Edwards. Caerdydd: Barddas. ISBN 0946329354. OCLC 19323452.
  5. Davies, Hazel Walford (1995). Saunders Lewis a Theatr Garthewin. Llandysul, Dyfed: Gomer. ISBN 1859022928. OCLC 36671650.
  6. Davies, Hazel (1998). State of play : four playwrights of Wales. Llandysul: Gomer. ISBN 1859025749. OCLC 40755034.
  7. Davies, Hazel Walford, gol. (2000). Llwyfannau lleol. Llandysul: Gomer. ISBN 1859029027. OCLC 45736839.
  8. Davies, Hazel Walford; Thomas, Ed; Edwards, Dic; Way, Charles; Eirian, Siôn; Miles, Gareth (2005). Now you're talking : contemporary Welsh dramatists in conversation with Hazel Walford Davies. Aberteifi: Parthian. ISBN 1902638484. OCLC 62760521.
  9. Morgan, Sharon (2000). Davies, Hazel Walford (gol.). One woman, one voice : plays. Aberteifi: Parthian Books. ISBN 1902638085. OCLC 45766940.
  10. Davies, Hazel Walford (2007). Y theatr genedlaethol yng Nghymru. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 9780708318898. OCLC 190751750.
  11. Davies, Hazel Walford (2019). O.M. Llandysul: Gwasg Gomer. ISBN 1848518641. OCLC 1104640356.


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Hazel Walford Davies ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.