O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards
Bywgraffiad yr arolygwr ysgolion a llenor Syr O. M. Edwards (1858–1920) gan Hazel Walford Davies yw O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards. Gwasg Gomer a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn Chwefror 2020. Yn 2020 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Enghraifft o'r canlynol | llyfr, cofiant |
---|---|
Awdur | Hazel Walford Davies |
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Dyddiad cyhoeddi | Chwefror 2020 |
Tudalennau | 786 |
Genre | cofiant |
Prif bwnc | hanes |
Disgrifiad byr
golyguYn ôl broliant y llyfr hwn (2020):
Dyma'r cofiant llawn cyntaf i ŵr a ddaeth, yn ystod ei oes ei hun, yn eilun ei genedl. Ynddo ceir portread tra gwahanol o O.M. i'r fytholeg gyfarwydd a grëwyd wedi ei farwolaeth, a gwelir ef yma yn ieuenctid ei ddydd ac yn anterth ei nerth. Rhoddir sylw dyledus i'w yrfa ac i'w fenter fawr i drawsnewid diwylliant, llenyddiaeth ac addysg Cymru. Cyflwynir yn ogystal y dyn preifat a gaethiwyd gan rym ei obsesiynau a chymhlethdodau ei gymeriad, ac o brofodd ergydion chwerw fel priod a thad. Clywir llais O. M. drwy'r gyfrol, yn ogystal â lleisiau ei wraig, ei deulu a'i ffrindiau.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 17 Awst 2020